Cafodd Osian Jones o Aberaeron ddiwrnod i’r brenin yn ddiweddar wrth iddo gael y cyfle i ymweld â thîm pêl droed Cymru yn eu canolfan hyfforddi ger Caerdydd wrth iddyn nhw baratoi at wynebu Gwlad Belg a Gwlad Pwyl yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Enillodd Osian gystadleuaeth ‘Gwlad y Chants’ a drefnwyd gan Cered a’r Mentrau Iaith ar gyfer Ewro 2020 gyda’i “Sea Chanty y Wal Goch”. Cafodd Osian ddiwrnod anhygoel yn mwynhau ei wobr, sef gwylio un o ymarferion diweddaraf tîm a chwrdd â’r garfan i gyd – gweler y lluniau ohono gyda Gareth Bale, Rabbi Matondo a Joe Rodon.
Medd Eryl Jones, tad Osian:
“Roedd Osian wrth ei fodd yn cael ennill cystadleuaeth creu ‘chant’ Gymraeg ar gyfer cystadleuaeth yr Ewros, ac roedd gwobr o gael gweld ei hoff dîm – Cymru – yn ymarfer yn hufen ar y gacen!
“Cafodd gwrdd gyda rhai o’i arwyr pêl droed – fe gafodd brofiad bythgofiadwy.”