Parti Pen-blwydd Barti Ddu

Ysgolion y dyffryn yn dathlu Diwrnod T. Llew Jones

Ffion Evans
gan Ffion Evans

Roedd hi’n Ddiwrnod T Llew Jones ddoe – cyfle i blant o bob man i gofio am awdur llyfrau plant enwocaf Cymru.

I ddathlu cafodd plant Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a 2 Ysgolion Ciliau Parc, Dihewyd a Felinfach Barti Pen-blwydd i Barti Ddu, un o gymeriadau mwyaf bywiog yr awdur. Daeth 60 o fôr ladron bach at ei gilydd i fwynhau dawnsio, chwarae gemau a chymdeithasu yn Neuadd Ciliau Aeron.

Fideo o’r parti