Y Vale yn dod i’r brig yn ’Steddfod Llanarth

Hwyl a sbri – o’r canu operatig i’r ddawns flodau wahanol!

Carys Mai
gan Carys Mai
Steddfod Hwyliog Llanarth_1

Aelodau tîm y Vale gefn llwyfan yn neuadd Llanarth

Steddfod Hwyliog Llanarth_2

Iwan Thomas, y bardd buddugol, yn cael ei gadeirio gan y beirniaid, Cennydd a Naomi Jones

Steddfod Hwyliog Llanarth_3

Tess Price yn cystadlu yn y cwis “ateb y cwestiwn blaenorol” a Bryan Davies yn holi

Cafodd tîm y Vale hwyl arni yn ’Steddfod Hwyliog Llanarth yn ddiweddar a’r eisin ar y gacen oedd cael ein coroni’n bencampwyr ar ddiwedd y noson!

Bu cystadlu brwd rhwng y tri tîm – y criw lleol o Lanarth, strabs Talgarreg a chriw dwl y Vale!

Uchafbwynt y cystadlu oedd cystadleuaeth y limrig a’r frawddeg, a fe ddaeth y Vale i’r brig yn y ddwy gystadleuaeth gydag ymdrechion clodwiw Iwan Thomas:

LIMRIG

Ar y maes yn ’Steddfod Tregaron

Lle bu Cymru’n disgleirio yn rhadlon

Yn cwyno yn galed

Bod lle yn ei waled

Mae Aled yn ganol ei garthion

BRAWDDEG

Cefnor cyffuriau! Co’r Constabiwlari’n cysurus; corlannodd cerrynt cefnforol contraband cocaine cyn cyrhaeddodd cartrefi’n cymunedau Ceredgion.