Dysgu am ddiogelwch ar lein

Ymweliad PC Ian i Ysgol Ciliau Parc

Plant Ysgol Ciliau Parc
gan Plant Ysgol Ciliau Parc

Ar ddydd Mercher y28ain o Fedi, daeth ymwelydd pwysig i’r ysgol. Daeth PC Ian i ddosbarth Glynaeron i ddysgu ni am fwlio seiber.

Dysgon ni bod bwlio seiber yn digwydd ar lein pan mae pobl yn defnyddio technoleg e.e. cyfrifiaduron, ffonau symudol, ipads i sgwrsio. Dangosodd PC Ian fidio stori Megan, yna roedd rhaid gwylio’r fidio yr ail waith a’i stopio bob tro roeddwn yn gweld bwlio. Ar ddiwedd y fidio cafodd Megan help wrth ei ffrind, heddwas a’r brifathrawes.

Rhoddodd PC Ian neges bwysig I ni – dywedwch wrth ffrind neu oedolyn os ydych yn poeni am rywun neu os ydych yn cael eich bwlio. Cofiwch, mae llawer o wybodaeth defnyddiol am fwlio ar wefan Schoolbeat.

Ysgrifennwyd yr adroddiad gan Bethan, Lea, Osian a Jac blwyddyn 5 a 6 Ysgol Ciliau Parc.