Eisteddfod lwyddiannus i C.Ff.I. Felinfach

Hynt ac helynt aelodau C.Ff.I Felinfach yn Eisteddfod C.Ff.I Ceredigion 2022

Sion Wyn
gan Sion Wyn

Côr buddugol C.Ff.I Felinfach

Meimio i Gerddoriaeth ar y thema ‘Y Môr’

Owain a Bleddyn yn cystadlu yn y Cyflwyniad Dramatig

Ensemble Lleisiol

Ianto ac Ella yn derbyn y wobr gyntaf am y Ddeuawd

Amy, Erin a Liwsi yn cystadlu yn y Ddawns Greadigol ar y thema ‘Tir a Môr’

Ella yn dod i’r brig yng nghystadleuaeth yr Emyn Nofis

Mared yn chwarae’r delyn yng nghystadleuaeth yr Unawd Offerynnol 28 oed neu iau

Ellen ar y piano yn cystadlu yn yr Unawd Offerynnol 28 oed neu iau

Cynhaliwyd Eisteddfod C.Ff.I Ceredigion ar Nos Iau’r 3ydd a Dydd Sadwrn y 5ed o Dachwedd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid. Bu cystadlu brwd drwy gydol yr Eisteddfod, gyda C.Ff.I Felinfach yn llwyddo i ddod i’r 3ydd safle ar ddiwedd y cystadlu. Dyma flas ar lwyddiannau’r clwb yn yr Eisteddfod eleni:

LLWYFAN

Deuawd – Ianto Jones ac Ella Evans – 1af

Côr Cymysg – 1af

Canu Emyn Nofis – Ella Evans – 1af

Llefaru 28 oed neu iau – Alaw Mair Jones – 2il

Cyflwyniad Dramatig – Owain a Bleddyn Thomas – 2il

Canu Emyn – Ianto Jones – =3ydd

Ensemble Lleisiol – 3ydd

Cân gyfoes – 3ydd

GWAITH CARTREF

Llyfr Lloffion – 2il

Rhyddiaith (Y Goron) – Alaw Fflur Jones – 2il

Cerdd (Y Gadair) – Ianto Jones – 2il

Cystadleuaeth i aelodau 16 oed neu iau – Ioan Price – 2il

Cystadleuaeth i aelodau 28 oed neu iau – Ffion Evans – 2il

Brawddeg – Ianto Jones – 2il

Cystadleuaeth i aelodau 21 oed neu iau – Iwan Jenkins – =3ydd

Ffotograffiaeth 28 oed neu iau – Gwern Thomas – =3ydd

Rhaglen Clwb – =3ydd

Dawns TikTok 28 oed neu iau – Erin Davies – 3ydd

CANLYNIADAU TERFYNOL

Adran Gwaith Cartref – =1af

Canlyniad terfynol yr Eisteddfod – 3ydd (78 marc)

Pob lwc i bawb fydd yn cynrychioli’r clwb a’r sir yn Eisteddfod C.Ff.I Cymru yn Ysgol Bro Gwaun, Abergwaun ymhen pythefnos ar yr 19eg o Dachwedd. Edrychwn ymlaen at gael mynd â’r Côr i lefel Cymru am y tro cyntaf ers 2007! Diolch i Siw Jones a Ficer Wyn Maskell am arwain a chyfeilio. Cafwyd noson hwylus o ddathlu’r fuddugoliaeth wedyn yn Nhafarn y Vale – llawn haeddiannol ar ôl wythnosau o ymarfer diwyd. Ymlaen nawr at Gymru!

Diolch i bawb, boed yn aelodau, arweinyddion, rieni neu’n hyfforddwyr am eu hymdrechion a’u cefnogaeth, gyda chynifer o aelodau’n cystadlu am y tro cyntaf erioed ar lwyfan Eisteddfod y C.Ff.I.

Cofiwch ddilyn C.Ff.I Felinfach ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf o griw Dyffryn Aeron!

Instagram: @cffifelinfach

Facebook: Ffrindiau CFFI Felinfach YFC Friends

Twitter: @CFfIFelinfach