Cerdded i Qatar!

Plant Ysgol Ciliau Parc yn llwyddo i gwblhau her a hanner!

Ffion Evans
gan Ffion Evans
Qatar 1

Cyffro mawr wrth i’r milltiroedd olaf ddod i mewn.

Qatar 1

Jac yn gorffen y filltir olaf!

Qatar

Y plant yn dechrau ar yr her tua deufis yn ôl.

Qatar 3

Bron a chyrraedd!

Tua deufis yn ôl gosodwyd her i blant a staff Ysgol Ciliau Parc i gerdded yr holl ffordd o Giliau Aeron i Qatar yn barod i gêm agoriadol Cymru yn nhwrnamaint Cwpan y Byd ar y 21ain o Dachwedd. Cyfanswm o 4380 o filltiroedd!

Mesurwyd milltir ar yr iard, a phob dydd byddai’r plant yn cofnodi sawl lap neu filltir wnaethon nhw yn ystod y dydd.

Wel heddiw – dydd Iau yr 17eg o Dachwedd, 4 diwrnod yn gynnar rydym wedi cyrraedd!

Llongyfarchiadau mawr i’r plant am ymateb mor arbennig i’r her.

Pob lwc i Dîm Pêl-droed Cymru!