Hwyl Fawr Mrs Lewis

Diolch Mrs Lewis

Plant Ysgol Ciliau Parc
gan Plant Ysgol Ciliau Parc

Yn yr Haf, gadawodd Mrs Lewis Ysgol Ciliau Parc. Roedd Mrs Lewis yn athrawes arbennig i flwyddyn 3 a 4 ac yn brifathrawes wych i’r ysgol gyfan.

Roedd y diwrnod olaf yn un bythgofiadwy, canodd yr ysgol gân i dôn ‘You are my Sunshine’ i Mrs Lewis ac yna rhoddon ni anrhegion iddi. Daeth y rhieni i wylio’r dathliad ar yr iard hefyd.

Dechreuodd Mrs Lewis yn yr ysgol nôl yn 2017. Gweithiodd fel athrawes a phrifathrawes am 5 mlynedd. Mwynheuon ni’r holl wersi iaith, hanes a cherdd. Diolch am yr holl wersi gwych! Roedd Mrs Lewis yn athrawes feddylgar a charedig. Diolch yn fawr am ein helpu i ddatblygu a’n ysbrydoli!

https://twitter.com/i/status/1548406028009476096

Ysgrifennwyd yr adroddiad gan Wilf, Gwenllian ac Evelyn, blwyddyn 5 a 6 Ysgol Ciliau Parc.

1 sylw

Carys Lewis
Carys Lewis

Diolch o galon i chi gyd am yr adroddiad a’r geiriau caredig iawn. Rydych i gyd werth y byd!

Mae’r sylwadau wedi cau.