Ffair Nadolig yn codi miloedd o bunoedd i Ysgol Gyfun Aberaeron

Ffair Nadolig yn llwyddo i godi dros £3,500 i Ysgol Gyfun Aberaeron

Sion Wyn
gan Sion Wyn

I weld gweddill o luniau’r noson, ewch i Facebook Ysgol Gyfun Aberaeron

Neuadd yr ysgol yn orlawn!

Clare Lloyd, disgybl Blwyddyn 7 yn chwarae’r delyn

Rhys Roberts, disgybl Blwyddyn 13 yn chwarae’r piano

Mae hwyl yr ŵyl wedi hen gyrraedd Ysgol Gyfun Aberaeron erbyn hyn, wedi i’r ysgol gynnal ei Ffair Nadolig blynyddol nos Iau ddiwethaf, y 24ain o Dachwedd. Dyma’r tro cyntaf i’r ffair cael ei chynnal wedi’r pandemig, a’r cyfle cyntaf i’r ysgol godi arian wedi’r holl gyfyngiadau a fu.

Croesawyd nifer fawr iawn o ddisgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr a ffrindiau’r ysgol i’r Neuadd nos Iau, ac roedd hi’n hynod o braf gweld y neuadd yn orlawn â phawb yn barod i gefnogi’r dros 30 o stondinau a oedd yno. Roedd y rhan fwyaf o’r stondinau rheiny’n fusnesau bach lleol a daeth i arddangos eu cynnyrch, boed yn grefft llaw, bwyd a diod neu anrhegion perffaith i’r Nadolig, fel llyfr neu addurniadau gwahanol. Daeth busnesau lleol megis Llaethlliw, Jacôs, Gwisgo Bookworm, Ami’s Bakes a Darlunio Meinir Davies i enwi ond rhai, i werthu eu nwyddau yn y ffair. Profodd y noson yn un hynod o lwyddiannus.

Yn ogystal, roedd adrannau gwahanol yr ysgol wedi bod yn brysur yn paratoi stondinau, megis y Clwb Eco, Adran Dylunio a Thechnoleg, Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Hafan ac Encil. Cafwyd perfformiadau gan Rhys Roberts, Blwyddyn 13 ar y piano a Clare Lloyd, Blwyddyn 7 ar y delyn er mwyn ychwanegu i’r naws Nadoligaidd hyfryd.

Llwydodd y Ffair Nadolig ynghyd â’r Raffl Fawr godi dros £3,500 tuag at adnoddau i ddisgyblion yr ysgol. Hoffwn ddiolch ar ran yr ysgol i bawb am gefnogi’r noson, i’r holl fusnesau a rhoddodd wobr i’r raffl ac i’r holl noddwyr.