Sanclêr 21 – 16 Aberaeron

Brwydr galed ar lannau’r Tâf

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Sancler

Sgrym gadarn Aberaeron

Fel y bu’r disgwyl, cafwyd gêm anodd i lawr yn Sanclêr dydd Sadwrn. Gyda’r tîm cartref ar frig y gynghrair bu’r ymdrech am fuddugoliaeth i’r ymwelwyr yn ormod iddynt.

Aeth Sanclêr ar y blaen gyda throsgais yn y munudau cyntaf. Yr unig sgôr arall yn yr hanner cyntaf oedd dwy gic gosb i Aberaeron trwy droed Rhodri Jenkins.

Er bod y llinellau a’r sgrymio yn mynd yn dda i Aberaeron, methu croesi’r llinell bu eu hanes drwy’r rhan fwyaf o’r ail hanner. Gwnaed gormod o gamgymeriadau sylfaenol ar adegau tyngedfennol yn agos i’r llinell gais. Rhaid canmol amddiffyn y tîm cartref am hyn.

Yn wahanol i Aberaeron gwnaeth Sanclêr sgori dwy drosgais yn y cyfnod hwn. Bu Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda chic gosb i roi’r sgôr yn 21 – 9 gyda thua chwarter awr o’r gêm ar ôl.

Pwynt bonws

Roedd digon o amser yn weddill i Aberaeron ennill y gêm, ond methwyd ychwanegu at y sgôr tan y munudau olaf pan groesodd y capten Morgan Llewelyn am gais. Bu’r blaenwyr yn pwyso’n drwm ar y llinell gais ond yn methu croesi tan i’r bêl ddod allan i ddwylo’r cefnwr i groesi o fewn rhyw dwy fetr.

Bu’r trosiad yn llwyddiannus ac fe gafodd yr ymwelwyr gyfle arall wedi ail ddechrau’r gêm gyda’r bêl yn nwylo’r cefnwyr gyda gwagle clir i lawr yr ystlys. Yn anffodus cafodd y bêl ei bwrw ymlaen gyda’r dyfarnwr yn chwythu ei chwib i nodi diwedd y gêm. Rhaid bod yn fodlon â phwynt bonws yn y diwedd, ond mi all pethau fod wedi bod mor wahanol pe bai’r trafod wedi bod mwy clinigol.

Llanbed

Llanbed bydd y gwrthwynebwyr ar Barc Drefach y Sadwrn nesaf. Dylai hon eto fod yn gêm ddarbi gystadleuol, gyda Llanbed heb golli gêm yn y gynghrair.