Siopa Dolig – Back to basics!

Gwerth siopau bach y wlad yn cael ei ail ddarganfod wedi Covid

gan Janice Thomas
317207372_5381683065270545

Atgofion lu o’r Nadolig yn y Swyddfa Bost

Mae Siopa Dolig wedi mynd yn fusnes stressful.  Mae’r arfer o deithio’n arbennig i’r ddinas fawr i chwilio’r anrheg berffaith ac i gael yr holl bitsach sydd angen wedi mynd yn gymaint o draddodiad erbyn hyn â’r canu carolau.

Fues i’n lwcus iawn i gael magwraeth hyfryd yn ferch i siop y pentre’.

Roedd amser Nadolig yn gyfnod hapus iawn ac roedd gweld yr ‘outers’ o ddanteithion yn cyrraedd ar y troli mawr a chael wâc i Bookers ar brynhawn dydd Mercher i weld yr arlwy oedd ar gael ar gyfer yr ŵyl yn rhywbeth i’w ryfeddu!

Roedd Dad wastad yn cadw 3 bocs o siocledi Milk Tray anferth.  Ydych chi’n cofio nhw?  Y rhai gyda llun ceffyl a chart ar y clawr.  Un haenen berffaith o siocledi.  Roedd 2 o’r rheiny yn mynd ar y silff ucha un fel bod pawb yn gallu eu gweld.

OND, yr amser mwyaf cyffrous oedd pan roedd y bocsys yn dechre cyrraedd y parlwr.  Bocsys?  Ie, bocsys.  Meddyliwch am y fasged fach yna yng nghornel eich hoff wefan siopa, wel, yr un peth â honna ond roedd hi yn ein parlwr ffrynt ni yn y Post.  Bocs cardfwrdd gyda enw person, tŷ neu fferm arni.  A pan fyddai’r fam (rhan amla) yn galw mewn am negeseuon o ddiwedd mis Tachwedd ymlaen byddai rhywbeth bach yn mynd mewn i’r bocs ar gyfer y Nadolig.  After Eights, Selection box i’r plant, llyfrau Cymraeg fel anrhegion, potel fach o ‘Blue Nun’, cnau, sugared almonds pinc a melyn a glas oedd yn edrych fel cerrig bach lan y môr.  Roedd y llawr, y bwrdd a’r dresser yn llawn o focsys.  Cymaint fel bod rhaid camu’n ofalus rhyngddynt i gyrraedd pen pella’r ystafell.

Rhoedd hefyd llyfr ‘orders’ oedd yn cael ei gadw yn y drôr wrth ymyl y glorian pwyso.  Llyfr pwysig  oedd hwn.  Rhestr siopa i deuluoedd y pentre oedd yn cael ei chadw yn y siop yn hytrach nag ar-lein.  “Rho’ hanner pownd o sbrowts lawr i fi”.  “Cofia’r Ham – 10 sleisen, thick cut”.  Poteli o Corona (y pop nid y cwrw!) Byddai’r rhestrau yn faith.  Tanjerins a ffrwythau, llysiau, caws a hufen.  Pob dim oedd angen ar gyfer y diwrnod mawr.  A’r cyfan yn cael mynd i’r bocs yn y parlwr 2 ddiwrnod cyn Dolig.

Dw i ddim yn dweud nag oedd pobol yn siopa mewn llefydd eraill ond roedd hwn yn ffordd hawdd o gadw beth oedd angen.

Wrth gwrs, roedd Dad yn cofio archebu digon o Paxo a jariau o Cranberry Sauce achos bydde digon o bobol yn galw mewn noswyl y Nadolig ‘wedi anghofio’!   Ac yna, bore Dolig byddai’r bobl yn galw yn drws y bac achos odd Santa wedi anghofio’r batris ar gyfer y tegan newydd!

A’r wers yn y stori?  Ydyn ni’n or-gymhlethu beth sy’n bwysig?  Yn dilyn y cyfnod clo, y siopau bach lleol wnaeth cadw ni gyd i fynd.  Felly, beth am dalu’r ffafr trwy eu cefnogi nhw?  Mae gan Felinfach y Post, y Cop, y Garej a’r Vale.  Dwi’n siŵr y gallech chi ddod i ben â chwilio cardiau,  llyfr, tegan, dillad, potel o win, tocyn rodd neu hampyr o fewn y pentre – a bydde pawb yn y teulu yn hapus!

Defnyddiwch eich siopau bach lleol – mae’n costio llai o ddiesel (gallech chi hyd yn oed mynd ar y bws!).  Gall siopau bach lleol Llambed ac Aberaeron ynghyd â’r ffeiriau Dolig di-ri eich helpu i safio amser ac arian y Nadolig hwn.  Ewch amdani.

Ohhh ie, a’r trydydd bocs o Milk Tray?  Byddai un ffarmwr arbennig yn dod mewn pob blwyddyn ar noswyl Nadolig – am bump o’r gloch – i whilo ‘Christmas Box’ i’r wraig!   Byddai’r siop leol wedi neud yn siŵr bod ei wraig yn cael anrheg bob blwyddyn!