
Y gorfoledd wrth i Aberaeron sgorio ar yr eiliad ola’




Mae gemau rygbi rhwng Aberaeron a Llambed ers sawl tymor wedi darparu tipyn o gyffro a chanlyniadau agos, ond does dim un o’r gemau hynny’n medru curo’r ddrama oedd yn perthyn i’r diweddara yn y gyfres ddydd Sadwrn diwetha’ ar Barc Drefach.
Fe ddaeth tyrfa dda o ochrau Llambed ag Aberaeron – a thu hwnt – i wylio’r ornest rhwng dau dîm yn agos at frig Cynghrair 3A y Gorllewin o Bencampwriaeth Undeb Rygbi Cymru.
Er i’r amodau fod yn heriol iawn ar adegau, yn dilyn cawod drom o gesair hanner ffordd drwy’r gêm, fe wnaeth y ddau dîm darparu gêm wnaeth gadw’r tensiwn hyd yr eiliad ola’.
Aberaeron gafodd y dechreuad gorau wrth i bwysau arwain at ddiffyg disgyblaeth yn rhengoedd yr ymwelwyr, gyda Rhodri Jenkins yn manteisio wrth lanio cic gosb gampus o ochr dde’r cae i agor y sgorio.
Fe wnaeth Llambed ymateb yn gryf wrth groesi ddwywaith o fewn ugain munud wedi manteisio ar daclo gwan annodweddiadol gan y gwylanod. Y cefnwr peryglus Rhys Douglas, a’r maswr Osian Jones groesodd am y ceisiau, ond methu wnaeth y maswr gyda’r ddau drosiad -yr ail fethiant yn dilyn ymdrech arbennig gan y mewnwr Tudur Jenkins i daro’r gic lawr. Mewn gêm agos, ‘roedd pob gweithred yn arwyddocaol.
Cyn yr hanner, fe lwyddodd Aberaeron i adennill y momentwm, ac yn dilyn cyfnod o chwarae grymus arall gan y pac a fu’n effeithiol ac yn gorfforol drwy’r gêm, fe groesodd Sion Evans am drosgais i ddod â’r sgôr yn gyfartal ar yr hanner.
Y tensiwn yn cynyddu
Prin oedd modd chwarae rygbi llyfn a deniadol ar hyd y tri-chwarteri yn yr ail hanner wrth i’r cae droi’n llithrig a thrwm wedi’r gawod o gesair. Wedi deg munud o chwarae, fe gafodd maswr Aberaeron cyfle i ychwanegu at sgôr Aberaeron yn dilyn trosedd gan Lambed ychydig o fewn i’w hanner eu hunain. ‘Roedd yn edrych yn debyg mai’r gic arbennig yna gan Rhodri Jenkins fyddai’r gwahaniaeth rhwng y dau dîm wrth i’r sgôr barhau’n 13-10 i’r tîm cartre’ tan y munud olaf. Daeth rhes o giciau cosb yn erbyn Aberaeron â Llambed yn agos i’r llinell, a rhuthr grymus gan bac Llambed y tro hwn yn arwain at gais o dan y pyst i’r wythwr Brynmor Jones. Gydag Osian Jones yn ychwanegu’r ddau bwynt i agor bwlch o bedwar pwynt, ‘roedd y ddau set o gefnogwyr yn credu fod y fuddugoliaeth am fynd i’r ymwelwyr.
Ond, ‘roedd amser i ail ddechrau’r gêm, ac er clod i’r gleision, fe godwyd yr ymdrech, acwedi ennill cic gosb o’r ail ddechrau, fe anelodd Rhodri Jenkins am y gornel i roi cyfle am un ymosodiad arall. O’r llinell, fe ymunodd y tîm cyfan yn yr hyrddiad, gan wthio Dafydd Lloyd yn fuddugoliaethus dros y llinell a golygfeydd o lawenydd ymhlith a chwaraewyr a’u cefnogwyr.
Mwy plîs?
Dyma rygbi lleol ar ei orau, ac mae disgwyl ymlaen yn barod at yr ail gyfarfod o’r tymor yn Llambed ym mis Ebrill.