Yr Hen Galan yn codi canu a chodi calon

Croesawu’r Fari Lwyd i’r dyffryn am y tro cynta’ ers cyn cof

Carys Mai
gan Carys Mai
Hen Galan yn Lleifior

Croesi’r trothwy cynta’ yn Lleifior gyda Euros a Meinir

Iechyd da Mari!

Iechyd da Mari!

Y Fari Lwyd yn cyrraedd Dolcoed

Y Fari Lwyd yn cyrraedd Dolcoed

Mari a'r merched

Mari, Carys, Lowri ac Elin yn rhannu sieri fach

Cyrraedd tafarn y Vale

Y stop olaf ar y daith – Tafarn y Vale

Pwnco yn y Vale

Pwnco yn y Vale

Gregg Lynn yn rhannu hanes traddodiad Hen Galan yng Nghymru

Gregg Lynn yn rhannu hanes traddodiad Hen Galan yng Nghymru

Wel, am noson! Daeth y Fari Lwyd i Ddyffryn Aeron am y tro cynta’ ers cyn cof i ddathlu’r Hen Galan neithiwr.

Yn unol â thraddodiad, bu’r Fari Lwyd a’i chriw, yn eu gwisgoedd, eu rhubanau a chyda’u hofferynnau taro, yn crwydro o dŷ i dŷ yn Ystrad Aeron a Felinfach yn ceisio cael mynediad i’r tai drwy berfformio cyfres o benillion, neu ‘pwnco’. Wedi’r canu wrth stepen y drws, roedd y Fari yn croesi’r trothwy, gan fod hyn, mae’n debyg, yn rhoi lwc i’r cartref am y flwyddyn i ddod ac yn dychryn unrhyw beth diangen o’r flwyddyn flaenorol.

Cafwyd croeso arbennig ym mhob cartref a phen y daith oedd croesi trothwy tafarn y Vale i wledd o ganu, cwrw a dathlu.