Hanes Cribyn yn hwb i’r Ambiwlans Awyr

Atgofion Wyndham, Mynach Villa, yn creu elw sylweddol

Euros Lewis
gan Euros Lewis
Cyflwynor-siec-am-1000-2

Yr awdur, Wyndham Jones, yn cyflwyno’r siec i Carol Jones, Ambiwlans Awyr Cymru

Clawr y gyfrol.

Feddylies i erio’d bydde’r llyfr bach yn codi gymint! Dyna ymateb Wyndham Jones, Mynach Villa, Cribyn pan ddaeth i wybod fod Cribyn – Bro fy Mebyd wedi creu £1,000 o elw ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

A gweud y gwir, medde Wyndham, o’n i’n amau faint o ddiddordeb fydde ’na erbyn hyn yn y fath lyfr. Ma gymint o’r hen gymdeithas wedi mynd a gymint o bobol ddŵad wedi symud mewn o’n i’n dechrau becso bydde ‘da fi lwyth o lyfre heb eu gwerthu ar ’y nwylo.

Ond doedd dim angen i Wyndham fecso o gwbl. O’r 200 a argraffwyd gyntaf diflannodd dros eu hanner nhw noson gyhoeddi’r gyfrol, fis Mehefin y llynedd. A’n wir i chi, o fewn wythnos neu ddwy  roedd sôn bod hi’n newid dwylo ar y blac marced am dipyn mwy na’r saith bunt namyn pum ceiniog ar y clawr! Doedd dim amdani ond ail-argraffu.

Chwe mis yn ddiweddarach, â phob copi o bob argraffiad wedi’u gwerthu, daeth Carol Jones, cynrychiolydd lleol Ambiwlans Awyr Cymru, i Ysgol Cribyn i dderbyn siec am fil o bunnoedd o law Wyndham ar ddiwrnod Ffair Sant Silin. Medd Alan Henson, cadeirydd Cymdeithas Clotas – cyhoeddwyr y gyfrol a threfnwyr y ffair – Mi fydde’r hen Silin ar ben ei ddigon, glei!