Gobaith am ddyrchafiad ar chwâl

Aberaeron 24 – 29 Hwlffordd

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Screenshot_20230222-113125-1Rhys Hafod

Rhodri Jenkins – cais, cic gosb a thair trosiad

Roedd gobeithion Aberaeron am ddyrchafiad yn edrych yn addawol. Yn drydydd yn y gynghrair a chyda nifer o êmau cartref i’w chwarae cyn diwedd y tymor roedd hyder y chwaraewyr yn uchel.

Wedi curo Hwlffordd bant ynghynt yn y tymor roedd gobaith am fuddugoliaeth ar Barc Drefach dydd Sadwrn dwetha. Mi ddiflannodd yr hyder a’r gobeithion yn gloi wedi dechrau’r gêm pan sgoriodd yr ymwelwyr eu cais cynta. Roedd pac Hwlffordd dipyn cryfach na phac Aberaeron a chyda taclo gwan y tîm cartre, nid oedd hi’n syndod eu bod wedi sgorio cais hawdd. Er i Rhodri Jenkins gadw’r sgôr-fwrdd i dicio drosodd gyda chic gosb, aeth Hwlffordd ymhellach ar y blaen gyda throsgais.

Roedd llinellau Aberaeron yn gweithio’n dda a chyda ymweliad prin i mewn i 22 y gwrthwynebwyr mi sgoriwyd cais gan Hefin Williams a’i throsi gan Rhodri Jenkins. Yn syth wedi ail-ddechrau mi fethodd Aberaeron sicrhau meddiant ac wedi brwydr galed i’w cadw rhag sgorio, mi ddyfarnwyd cais gosb i Hwlffordd gan adael y sgôr yn 10 – 19 ar hanner amser.

Ail hanner

Mi ddechreuodd yr ail hanner ar yr un patrwm gyda Hwlffordd yn sgorio trosgais yn y munudau cynta. Mi wnaeth hyn sbarduno’r tîm cartre ac fe ail-ddechreuwyd y gêm gyda thipyn mwy o dân yn chwarae’r tîm cartre. Wedi tipyn o bwyso, brwydrodd Gareth James, mewnwr Aberaeron trwy’r amddiffyn i sgorio cais unigol dda. Trosiwyd y gais gan Rhodri Jenkins. Efe wnaeth sgorio nesa wedi bylchiad cryf gan y canolwr ifanc, Gethin Jenkins. Mi gafodd Gethin ei dynnu i lawr ychydig droedfeddi yn brin o’r llinell. Wedi’r sgarmes a ddilynodd mi wnaeth Rhodri Jenkins ddod i ben a chroesi’r llinell. Wedi trosiad llwyddiannus roedd y sgôr yn 24-26 gyda’r oruchafiaeth yn nwylo’r tîm cartre.

Cafwyd cyfle i fynd ar y blaen trwy gic gosb anodd, ond er bod Rhodri Jenkins wedi cael diwrnod arbennig gyda’i droed, methiant fu’r ymdrech hon gan iddo daro’r postyn!

Croeso nôl

Cael a chael oedd hi o hynny ymlaen, gydag Aberaeron yn croesawi Alex Danton, cyn gapten y clwb o’r fainc wedi agos i flwyddyn bant gydag anaf.

Dyfarnwyd cic gosb hawdd i Hwlffordd am drosedd cyn diwedd y gêm. Rhaid canmol ymdrech Aberaeron yn yr ail  hanner, ond yn anffodus roedd y taclo gwan yn yr hanner cynta wedi gadael gormod o fynydd i’w ddringo.

Bydd gêm nesa Aberaeron yn erbyn ail dîm Arberth ar nos Fercher Mawrth 1.