
Aelodau’r Pwyllgor yn cyflwyno’r sieciau i Ysbyty Plant Arch Noa ac i Ambiwlans Awyr Cymru.
Mae aelodau Pwyllgor Taith Tractorau Dyffryn Aeron wedi trosglwyddo arian taith 2022 i Elusen Ysbyty Plant Arch Noa ac Ambiwlans Awyr Cymru. Llwyddwyd i godi’r cyfanswm anhygoel o £10,500 wrth drefnu nawfed Taith Tractorau Dyffryn Aeron nôl yn Ebrill 2022.
Bu 97 o dractorau yn teithio o amgylch y dyffryn gyda chefnogaeth o bell ac agos. Ar ddiwedd y daith cynhaliwd ocsiwn llwyddiannus hefyd.
Dymuna’r pwyllgor ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac am sicrhau llwyddiant y diwrnod.
Beth am ymuno yn negfed Taith Tractorau Dyffryn Aeron, ar ddydd Sul 30ain o Ebrill 2023? Gweler tudalen Facebook Taith Tractors Dyffryn Aeron am fwy o fanylion cyn bo hir. Croeso i bawb.

