Ie, Pontsian. Ie glei.

Shwt beth oedd gwylio noson fuddugwyr yr Hanner Awr o Adloniant?

Lowri Fron
gan Lowri Fron
20230227_213939

Clwb Pontsian, a Chenedl Rydd Annibynnol Pontsian

20230227_204900

Bocs siocledi amrywiol Bro’r Dderi

Fues i’n un o’r bobol ffodus na i gael tocyn i iste yn Theatr Felinfach heno. Y lle na sy’n dod yn gartre i’r clybiau ffermwyr ifanc bob mis Chwefror.

Heno oedd nosweth y ffeinal – y top three – a jiw, ro’dd hi’n braf bod nôl!

Fe gerddes i mas yn rhannu brwdfrydedd Mared YFC – “dylsen ni neud sioe i gyn-aelode, bydde fe’n grêt,” medde hi.

Odd perfformiadau’r tri chlwb heno wedi hala pwl o hiraeth arnon ni.

Eliffant Clwb Felinfach odd y peth mowr cynta i dynnu sylw. Ac ro’dd rhywbeth newydd – mwy o seis – yn dod mewn i’r golwg bob munud yn y Syrcas ma!

Newn ni gofio canon Eileen a’r contrapshon mowr cylch na oedd yn troi am sbel… a nhw oedd â joc fwya poblogaidd y noson. Rhyfedd fel ma pawb yn cyd-chwerthin pan ma cyfle i ddangos beth ni i gyd yn meddwl am y ffarmwr crac na o Dregaron! Os oes rhywun erioed yn haeddu cael clown yn wherthin am ei ben e…

Gwaith tîm ar ei ore, golew Felinfach.

Fe dreulies i hanner amser yn dala lan da chyd-gyn-aelodau. Ac yn trafod “shwt odd y piano na dal i whare i Aaron?!”

Sdim rhaid bod yn glyfar bob tro. Odd stori syml Clwb Bro’r Dderi (aka Bro’r Siocledi) yn ddigon sbeshal i blesio theatr gyfan.

Gallen i restru actorion a pherfformwyr unigol gwych. Na’i ddim o hynny. Ond fe wna’i roi mensh i un aelod – Lowri Pugh Davies – dda’th i sefyll mewn am un cymeriad ar ôl derbyn y sgript neithiwr! Y math yna o bobol mae mudiad y CFfI yn eu magu. Pethe felna fydde sort S4C ddim yn gweld.

Clwb Pontsian fennodd y noson. Mae’r rhai o ni sydd wedi treulio blynyddoedd yn y sîn yma’n gwbod y gallwn ni ddisgwyl rhywbeth mowr gan Bontsian. Fe fydd y prif actorion yn cael clod, haeddiannol. Odd yr aelodau ‘ymylol’ fan hyn yr un mor bwysig.

Ac aeth y syniad â ni i lefel arall. Gwlad arall, fel mae’n digwydd – ro nhw’n dathlu bod Pontsian newydd ddod yn wlad annibynnol! Tipyn o beth am bentre bach jyst ochor draw i Tafarn Bach!

Fel odd Clwb Felinfach yn hala ni i beidio gadael fynd o’u breuddwydion, a fel o’dd Clwb Bro’r Dderi yn ein hannog i adael pob math o bobol yn rhan o’n criw ffrindie, ro’dd Clwb Pontsian yn gadael ni da rhywbeth i feddwl amdano fyd. Trwy ridiwsilysnes creu pwyllgore a phroses dewis arlywydd a sgwennu polisïau… shwt beth fydde hi, wir, i fyw mewn gwlad annibynnol? Shwt un fydden ni’n ei greu?

So, a wnes i joio? Jyst iste fyna, heb gymryd rhan na helpu i baratoi na pherfformio?

Wel, yr arwydd yw bo fi ishe bod fel nhw.

Ishe dychymyg gweledol Clwb Felinfach. Ishe dawn sgwennu stori Bro’r Dderi. Ac ishe gyts a beiddgarwch Teyrnas Ogoneddus Pontsian.

(Ac ishe Tshirts Ie Pontsian – rili eiddigeddus o’r aelode sy’n cael mynd rownd yn gwisgo rheina!)

Neb i ddweud bod mudiad y ffermwyr ifanc yn mynd am nôl. Drychwch yn ddyfnach nag uchafbwyntiau sgrîn sianel pedwar. Mae mwy, lot mwy i’w weld.