Codi £600 i Apêl Cemo Bronglais

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi Ysgol Ciliau Parc

Ffion Evans
gan Ffion Evans
Dydd Gwyl Dewi

Y plant yn perfformio

Y neuadd yn llawn

Y neuadd yn llawn!

Raffl

Gwerthu Raffl

Paned?

Ydych chi eisiau paned?

Pawb yn helpu.

Blwyddyn 5 a 6 yn brysur yn helpu.

Merched

Pawb yn helpu!

Lucie

Pawb yn helpu!

Llun

Deuawd

Pawb yn helpu!

Pawb yn helpu!

Mwynhau

Y bechyn yn mwynhau y cacennau!

Cacennau blasus y plant

Cacennau blasus y plant

diolch

Er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, trefnodd Ysgol Ciliau Parc Brynhawn Coffi yn Neuadd Ciliau Aeron. Roedd y neuadd yn llawn a’r plant yn edrych yn hyfryd yn eu gwisgoedd Cymreig.

Ein Dreigiau Cymraeg Cari a Jacob, ynghyd â’r Cyngor Ysgol wnaeth ddweud gair o groeso ac agor y Prynhawn Coffi.

Disgyblion Blwyddyn 5 a 6 bu’n croesawu pawb wrth y drws, yn gwerthu raffl, yn cario paneidiau a chacennau ac wrth gwrs golchi llestri!

Diddanodd plant yr ysgol y gynulleidfa drwy chwarae offerynnau, llefaru ac wrth gwrs canu. Roedd y plant wrth eu bodd yn canu Oes Gafr Eto, Mam Wnaeth Got i Mi a chafwyd perfformiad o ‘Bing Bong’ gydag Ioan yn cyfeilio ar y gitâr. Roedd hi’n gyfle i’r plant berfformio o flaen tyrfa cyn Eisteddfod yr Urdd.

Codwyd £600 i Apêl Cemo Ysbyty Bronglais. Mae’n elusen bwysig iawn i ni gan fod nifer o deuluoedd yr ysgol yn cael eu heffeithio gan ganser ac angen cymorth.

Diolch i bawb a wnaeth ymuno â ni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.