Amddiffyn cadarn yn dwyn buddugoliaeth

Aberteifi 15 – 18 Aberaeron

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Ryan WilliamsRhys Hafod

Sgoriwr dwy gais dros Aberaeron – Ryan williams

Am ryw reswm mae Aberaeron wastad yn ei ffeindio hi’n anodd yn erbyn Aberteifi. Gyda’r tîm cartref yn eistedd yn agosach at waelod y tabl, ag Aberaeron yn drydydd cyn dechrau’r gêm mi ddylai hon fod yn fuddugoliaeth gyfforddus i’r ymwelwyr. Nid fel ’ny fuodd hi!

Er i Aberaeron ddechrau’n gryf gyda chais gan Ryan Williams ni fu’n bosib ychwanegu at y sgôr cyn i Aberteifi fanteisio ar gic gosb wedi iddynt fethu sgorio cais yn y cornel. Daeth Aberaeron yn ôl gyda chais gan Bobby Jones wedi i’r bêl fynd trwy’r dwylo at Ifan Davies ar yr asgell a wnaeth basio i mewn at Bobby am gais.

Daeth Aberteifi’n ôl gyda dwy gic gosb wedi i’w wythwr, Tom Taylor wneud argraff drwy dorri trwodd yn gryf ar sawl achlysur. Bu bron iddo sgorio un tro cyn iddo gael ei dynnu i lawr ychydig fetrau’n fyr gan faswr ifanc Aberaeron, Jack Crompton oedd yn dechrau ei ail gêm gystadleuol i’r Gwylanod.

Yn ôl daeth Aberaeron ar un o’i achlysuron prin i mewn i 22 eu gwrthwynebwyr. Sgarmes symudol y tro ’ma wnaeth ddod ag ail gais i Ryan Williams ychydig cyn hanner amser.

Hanner amser: Aberteifi 10 – 15 Aberaeron

Brwydr anodd fu’r ail hanner i’r ymwelwyr gydag Aberteifi yn cario’n gryf ac yn bygwth torri trwodd yn gyson. Er hynny roedd amddiffyn cadarn Aberaeron yn eu cadw rhag croesi’r llinell. Roedd y pwysau yn gorfodi’r ymwelwyr i droseddu’n aml ac mi wnaeth Aberteifi fanteisio ar hyn a chicio dwy gic gosb i ddodi’r sgôr yn gyfartal.

Doedd hon ddim yn gêm bleserus i’w gwylio gyda nifer o gamgymeriadau gan y ddau dîm. Roedd yn frwydr gorfforol rhwng y blaenwyr ac mi gadwodd Aberteifi’r ymwelwyr yn hanner eu hunain bron trwy gydol yr ail hanner. Rhaid canmol ymdrech amddiffynnol y ddau dîm.

Yn y diwedd, gydag ond ychydig funudau i fynd mi wnaeth Aberaeron ddianc o’u hanner eu hunan a bygwth ychwanegu at eu sgôr am y tro cynta yn yr ail hanner. Mi wnaeth Aberteifi droseddu gan roi cyfle i Rhodri Jenkins fynd am y pyst.  Bu’n llwyddiannus gyda’r gic ac mi roedd Aberaeron yn lwcus iawn i ddod adre gyda buddugoliaeth.

Bydd gêm nesaf Aberaeron adre nos Wener, Mawrth 10 am 7:30.