Aberaeron 49 – 13 Llanybydder

Perfformiad dewr gan yr ymwelwyr

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Jac-CromptonRhys Hafod

Jac Crompton – seren y gêm

Rhaid rhoi canmoliaeth i Lanybydder am eu perfformiad yn y gêm hon.  Mi wnaethant gyrraedd Parc Drefach heb reng flaen gyflawn. Felly, yn ôl y rheolau bu rhaid iddynt chwarae gyda 14 chwaraewr ac nid oedd hawl gwthio yn y sgrymiau chwaith.

Er hynny mi frwydrodd Llanybydder yn galed drwy gydol y gêm gan gadw’r sgôr i un pwynt o wahaniaeth ar yr egwyl.

Dechreuodd Aberaeron y gêm gyda chais arbennig. Wedi cario cryf gan y blaenwyr, Bobby Jones ac Alex Danton yn eu hanner eu hunain symudwyd y bêl trwy sawl pâr o ddwylo at Steffan (DJ) Jones ar yr asgell. Gyda rhediad cryf i mewn i 22 Llanybydder mi wnaeth dynnu’r taclwr olaf cyn rhoi pas i’r capten, Morgan Llewelyn y tu fewn iddo i sgorio o dan y pyst.

Gweddol gyfartal bu’r chwarae rhwng y ddau dîm am yr ugain munud nesaf, ac wedi tipyn o bwysau ar lein y tîm cartref gwnaeth Steff Thomas sgorio cais i Lanybydder.

Amddiffyn cadarn

Methiant fu ymdrechion Aberaeron i ychwanegu at eu sgôr gan fod amddiffyn yr ymwelwyr yn gadarn. Yn y diwedd, wedi derbyn cic yn hanner ei hunan, gwnaeth y cefnwr, Morgan Llewelyn dorri trwy’r amddiffyn i lawr yr asgell a phasio at ei gynorthwywr. Dyfrig Dafis oedd y tu mewn iddo yn cefnogi ac mi welodd y ffordd yn glir i groesi am gais.

Ychwanegodd Llanybydder at eu sgôr trwy ddwy gic gosb gan Llyr Tobias. Roedd y sgôr ar yr egwyl (14-13) yn profi ein bod wedi cael gêm gystadleuol ac agos hyd yn hyn.

Aberaeron yn agor mas

Does wybod beth gafodd ei ddweud yn ystod yr egwyl, ond roedd Aberaeron yn wahanol tîm yn yr ail hanner, yn chwarae gyda mwy o egni a brwdfrydedd. Er i Lanybydder ymdrechu’n arwrol tan y diwedd mi wnaeth y tîm cartref sgorio pum cais. Sgoriwyd ceisiai gan Rhodri Jenkins, Gethin Dafis, Richard Francis, Bobby Jones ag ail gais i Dyfrig Dafis.

By Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda saith trosiad – diwrnod da i’r gŵr sy’n chwarae yn y canol y dyddiau ’ma.

Buddugoliaeth gyfforddus i’r tîm cartref yn y diwedd ond rhaid ystyried taw gêm o 15 yn erbyn 14 (13 am gyfnod) oedd hon ac mae’r sgôr terfynol yn adlewyrchu’r ffaith honno.

Gêm bwysig ar Barc Drefach

Mae Aberaeron yn chwarae bant yn Llangwm y Sadwrn nesa ond mae tipyn o gyffro yn bodoli yn y clwb gan fod gêm gynderfynol o gwpan, Adran 1 Undeb Rygbi Cymru yn cael ei chwarae ar Barc Drefach yr un diwrnod. Bydd St. Peters o Gaerdydd yn brwydro yn erbyn Nant Conwy am gyfle i chwarae’r ffeinal yn Stadiwm y Principality. Mae disgwyl torf dda ar gyfer y gêm hon.