Llangwm 12 – 42 Aberaeron

Dod adre a phwynt bonws!

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Rhodri Jenkins - cais a chwech trosiadRhys Hafod

Rhodri Jenkins – cais a chwech trosiad

Gêm i’r blaenwyr oedd hon yn bennaf. Roedd cyflwr y cae wedi’r glaw a phac trwm Llangwm yn datgan pa fath o gêm oedd i fod.

Er maint pac y gwrthwynebwyr, Aberaeron fu drechaf gan iddynt sgorio dwy gais trwy’r blaenwyr o fewn y deng munud cyntaf. Sgoriwyd y ceisiai gan Tudur Jenkins a Hefin Williams. Rhaid canmol y rheng flaen – Alex Danton, Rhys (Bwtch) Jones ac Osian (Eggie) Davies  am eu hymdrech lew yn y sgrymiau. Ychwanegwyd cais arall gan Tudur Jenkins cyn hanner amser gan roi’r sgôr yn 0 – 21.

Gyda’r gwynt y tu ôl i’r ymwelwyr, gweddol gyfartal bu’r chwarae ar ddechrau’r ail hanner. Gwnaeth Llangwm newidiadau i’w rheng flaen gan osod brwydr fwy cyfartal yn y sgrymiau. Wedi ennill llinell ar 22 eu gwrthwynebwyr mi gariwyd y bêl trwy’r blaenwyr am ddwy gymal cyn ei phasio at y canolwr disglair, Gethin Jenkins a wnaeth sgorio o dan y pyst.

Cais orau’r gêm

Wedi ail-ddechrau mi wnaeth hyder Aberaeron ddod i’r amlwg. Ar ôl derbyn cic yn 22 eu hunain, mi wnaeth Aberaeron ddechrau ymosod gan fynd trwy sawl cymal cyn lledu’r bêl i osod Iwan LLoyd yn rhydd i sgorio cais arbennig.

Gydag Aberaeron yn ymosod unwaith ‘to mi welodd y maswr, Jac Crompotn fod yna wagle y tu ôl i’r amddiffyn. Gyda chic ddestlus tuag at y cornel mi ennillod Aberaeron y frwydr am y bêl ac mi groesodd y canolwr, Rhodri Jenkins am chweched cais y gwrthwynebwyr.

Bu Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda’i chweched trosiad o’r prynhawn.

Wedi tipyn o eilyddio ag efallai gollwng mynd ar y dwyster gan yr ymwelwyr, mi wnaeth Llangwm frwydro’n ôl gyda chais a throsgais cyn diwedd y gêm. Bu hyn yn esgus i’r dorf leol gref ddangos eu cymeradwyaeth.

Bu’r gêm  hon yn gyfle i Osian Jones a Kavi Black ymuno gyda Jac Crompton mewn brwydr gystadleuol yn y gynghrair. Y tri yn dal i chwarae i dîm ieuenctid Aberaeron.

Mae golygon Aberaeorn yn troi yn awr at eu gêm nesaf ar Barc Drefach y Sadwrn nesaf yn erbyn San Clêr sydd heb golli gêm y tymor hwn.