Llanbed 25 – 21 Aberaeron

Gêm gyffrous ar Heol y Gogledd

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Steff-BwtchRhys Hafod

Steffan Jones, mewnwr Aberaeron

Wedi gweld eu gobaith am ddyrchafiad yn pylu dros yr wythnosau diwethaf, cyfle am ennill yr hawl i ymffrostio oedd y gêm hon i Aberaeron. Yn anffodus i’r ymwelwyr, nid felly y bu. Wedi iddynt ennill eu gêm adref yn erbyn Llanbed, dod oddi yno gyda phwynt bonws am golli o fewn 7 pwynt oedd unig gysur Aberaeron wedi’r ornest yma.

Er hynny, bu hon yn gêm gystadleuol o rygbi a gydag ychydig o lwc mi all y canlyniad fod wedi bod yn wahanol. Dechreuodd Llanbed yn gryf gan i’w mewnwr, Guto Ebbsworth gymryd cic gosb sydyn a chroesi am gais tra roedd chwaraewyr Aberaeron yn edrych ar ei gilydd.

Wedi tipyn o bwysau gan flaenwyr Aberaeron gwelodd y canolwr, Rhodri Jenkins ei gyfle i godi’r bêl,  sgorio rhwng y pyst a throsi’r cais. Gweddol gyfartal bu’r chwarae am weddill yr hanner cyntaf er i Osian Jones gicio cic gosb a gôl adlam i roi Llanbed ar y blaen 13-7 ar hanner amser.

Dechreuodd Llanbed yn gryf eto ym munudau cyntaf yr ail hanner. Er iddo daro’r bêl ymlaen heb i’r dyfarnwr sylwi, mi sgoriodd Rhys Douglas, cefnwr Llanbed eu hail gais a’i throsi. Ychydig yn ddiweddarach mi sgoriodd Llanbed eu trydydd cais drwy eu hasgellwr, Meirion Lloyd gan osod y tîm cartref 18 pwynt ar y blaen.

Aberaeron yn taro nôl

Gydag ond chwarter y gêm yn weddill, roedd eisiau i Aberaeron ddangos tipyn o gymeriad i ddod allan o’r gêm hon gyda thipyn o barch. Dyna a ddigwyddodd gan i’r tîm cyfan godi eu gêm a sgorio dwy drosgais.

Y cyntaf wedi bylchiad gan y canolwr ifanc, Gethin Jenkins a wnaeth hefyd sgorio cais wedi derbyn y bêl yn ôl oddi wrth ei gynorthwyydd, Morgan Llewelyn. Troswyd y cais gan Rhodri Jenkins. Daeth yr ail gais wedi pwysau cyson ar lein Llanbed gan eu rhoi o dan gryn bwysau. Y blaenasgellwr, Osian (Sychpant) Davies wnaeth groesi am drydydd cais Aberaeron gyda Rhodri Jenkins yn ychwanegu’r ddau bwynt am y trosiad.

Cadw i bwyso gwnaeth yr ymwelwyr ag mi roedd yna floedd gan gefnogwyr Aberaeron pan groesodd eu pac y llinell gais. Er hynny, dyfarnwyd bod y bêl heb ei thurio, er i un o chwaraewyr Llanbed gyfaddef wedi’r gêm bod y cais yn ddilys.

Mae’n siŵr bod cefnogwyr Llanbed wedi teimlo tipyn o ryddhad pan wnaeth y dyfarnwr chwythu am ddiwedd y gêm. Dyma ornest gystadleuol arall rhwng y ddau dîm yma sydd wastad yn tynnu’r gorau o’i chwaraewyr. Mi wnaeth Aberaeron chwarae dipyn yn well na wnaethant y Sadwrn cynt yn eu colled yn erbyn San Clêr ar Barc Drefach. Rhaid eu canmol am orffen y gêm mor gryf wedi iddynt fod cymaint ar ei hôl hi ar ganol yr ail hanner.