Taith Tractors yn Dathlu’r Deg

Criw codi arian yn dathlu degawd o ewyllys da

gan Janice Thomas

Dathlu’r Deg!

Taith Tractorau Dyffryn Aeron

Deng mlynedd yn ôl, dros beint, plannwyd yr hedyn y byddai’n braf cynnal digwyddiad yn y gymuned er mwyn codi arian ar gyfer elusennau … a gyda chriw o ffermwyr o amgylch y ford, dim ond un opsiwn oedd mewn gwirionedd – Taith Tractorau!

Erbyn hyn mae ‘dydd Sul olaf mis Ebrill’ wedi’i hen sefydlu fel diwrnod ‘Taith Tractorau Dyffryn Aeron’ ac mae’r paratoadau ar gyfer y daith nesaf, dydd Sul nesaf y 30ain o Ebrill,  yn cael eu cwblhau.

Er mai pwrpas y diwrnod, yn amlwg, yw codi arian tuag at elusennau, mae’r diwrnod yn cynnig mwy na hynny.  Mae’n gyfle i bobl weld ac edmygu’r amrywiaeth o dractorau hen a newydd, i’r gymuned ddod at ei gilydd … i gael clonc dros baned o de a chacen.   Nid oes angen bod yn berchennog ar dractor i fwynhau’r dydd!

Rydym wedi dod i adnabod ein hardal yn well ond dydi cynllunio’r ‘route’ ddim mor syml â fyddech chi’n meddwl!  Mae yna nifer o ystyriaethau  megis  “Oww mae’r tro na’n gas – ydi’r fast trac yn mynd i allu troi?”,  “ Oes digon o le i 100 o dractors yng nghae …?’.  Yn ystod y daith mae’n braf cael cyfle go iawn i sylwi a gwerthfawrogi prydferthwch ein Dyffryn.

Wedi’r daith,  rhaid llanw’r bol a dychwelyd i’r neuadd lle mae ‘merched y bwyd’ wedi paratoi gwledd ar ein cyfer … rolau cig mochyn, byrgyrs a mwy o gacs!    Yna, daw’r Ocsiwn fawr gyda chwmnïau ac unigolion lleol yn rhoi eitemau amrywiol er mwyn ychwanegu at goffrau’r diwrnod.

Ers y daith gyntaf mae ‘Taith Tractorau Dyffryn Aeron’ wedi rhannu hanner yr arian yn flynyddol tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.  Dyma wasanaeth amhrisiadwy i ni yma yng nghefn gwlad Cymru.  Gyda phob hediad yn costi oddeutu £1500 mae’n braf meddwl ein bod wedi gallu cynorthwyo nifer o bobl yn ystod y 9 mlynedd diwethaf.   Amrywia’r elusennau eraill o flwyddyn i flwyddyn  – ceisiwn gefnogi achosion lle mae unigolion o’r ardal wedi elwa o’u cymorth yn ystod y flwyddyn.

Eleni, yr elusennau y byddwn yn eu cefnogi yw ‘Ambiwlans Awyr Cymru’,  ‘Uned Gemotherapi, Ysbyty Glangwili’ ac ‘Apêl Uned  Gemotherapi, Ysbyty Bronglais’.  Os hoffech gyfrannu eitem ocsiwn neu raffl mae mwy na chroeso i chi wneud ar y dydd.  Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad.

Fel pwyllgor, mae ein diolch i BAWB a gredodd yn yr hedyn o syniad hwnnw 10 mlynedd yn ôl ac i bawb sydd wedi cyfrannu ym mha bynnag ffordd yn ystod y daith.  Mae ein diolch i bob noddwr, cyfranwyr bwyd, merched y te a’r cacs, rhoddion ariannol, rhoddwyr a phrynwyr yr eitemau ocsiwn heb anghofio am yrwyr y tractorau.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i 10fed Taith Tractorau Dyffryn Aeron eleni ar y 30ain o Ebrill,  2023.  Byddwn yn cwrdd, yn ôl ein harfer, yn Neuadd Felin-fach.  Byddwn yn dechrau ar y cofrestru am 10 y bore gyda’r daith i ddechrau am 11.00 y bore.

Galwch heibio am baned a chacen ar y dydd  … cofiwch – nid oes angen  tractor i fwynhau’r diwrnod!

Carys Plas