Aberaeron 44 – 27 Talacharn

Glwedd o rygbi ar Barc Drefach

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Gethin-DafisRhys Hafod

Gethin Dafis yn croesi

Gyda’r tymor yn dirwyn i ben mi gawsom y perfformiad gorau’r tymor gan y Gwylanod. Trueni ei bod wedi cymryd tan hyn cyn cael perfformiad o’r fath. Rhaid bod y fuddugoliaeth yn Noc Penfro’r Sadwrn cynt wedi creu hyder yn y bechgyn gan iddynt ennill gyda thipyn o steil i lawr yng ngodre Sir Benfro.

Dechreuodd Talacharn yn gryf gan sgorio trosgais yn y munudau cyntaf. Roedd pethau’n edrych yn addawol i’r tîm oedd un safle un uwch nag Aberaeron yn y tabl. Er hynny, mi drawodd y tîm cartref yn ôl gyda chic gosb o bellter gan Rhodri Jenkins. O fewn deng munud roedd y Gwylanod ar y blaen o 13 – 7. Sgoriwyd cais arbennig gan Rhodri Jenkins wedi i’r canolwr ifanc, Gethin Jenkins ddarganfod bwlch yn yr amddiffyn a thorri trwodd cyn pasio’n gelfydd i Rhodri. Roedd gan y maswr tipyn i wneud i osgoi’r amddiffyn oedd yn cau amdano, ond mi frasgamodd ymlaen gan ddangos ei gyflymder i sgorio dan y pyst. Gyda throsiad llwyddiannus a chic gosb arall roedd Aberaeron yn edrych yn gyfforddus.

Talacharn yn taro nôl

Nid oedd yr ymwelwyr yn barod i ildio’n hawdd ac fe wnaethant daro’n ôl gyda chais yn y cornel wedi chwarae cyffrous gan eu cefnwyr. Methiant fu’r trosiad. Gweddol gyfartal bu’r chwarae am y chwarter awr nesaf gyda’r ddau dîm yn ceisio chwarae rygbi agored. Roedd amddiffyn  y ddau dîm yn drech na’r ymosod  gyda’r chwarae yn symud o un pen y cae i’r llall. Gyda phum munud i fynd o’r  hanner cyntaf mi wnaeth yr ymwelwyr droseddu gan roddi cyfle i Rhodri Jenkins ategu at ei gyfanswm o bwyntiau – 16 i gyd.

Yn ôl eto daeth yr ymwelwyr gan ychwanegu cic gosb ar ddiwedd yr hanner cyntaf gan ddod a’r tîm o fewn pwynt i Aberaeron. Y sgôr ar yr hanner: Aberaeron 16 – Talacharn 15.

Chwe chais yn yr ail hanner

Fel ar ddechrau’r gêm, Talacharn oedd yn ymosod wedi ail-ddechrau chwarae. Cadwyd nhw rhag ychwanegu at eu pwyntiau am gyfnod hir gyda thaclo cadarn y tîm cartref. Gwnaeth y canolwr, Dyfrig Dafis arbed un cais sicr allan yn y tir agored gyda thacl yn agos i’r llinell gais. Rhaid canmol brwdfrydedd y tîm cyfan gyda’i hamddiffyn drwy gydol y gêm. Yn y diwedd, wedi agos i ddeng munud o bwyso dyfarnwyd cic gosb i’r ymwelwyr o fewn 10 metr i’r llinell gais. Cyn i chwaraewyr Aberaeron drefnu eu hamddiffyn mi gymrwyd y gic sydyn yn ac mi groesodd y clo, Carwyn Jones am gais, gan roi Talacharn ar y blaen unwaith eto. Methwyd gyda’r trosiad.

Tarodd Aberaeron yn ôl yn syth wedi ail ddechrau chwarae drwy symudiad a baratowyd ar y maes ymarfer. Gyda nifer o’r olwyr yn rhedeg llinellau bygythiol mi gyrhaeddodd yr asgellwr, Dilwyn Harries ganol y cae i dderbyn pas oddi wrth Rhodri Jenkins a churo’r amddiffyn i sgorio yn agos i’r pyst. Wedi trosiad llwyddiannus gan Rhodri Jenkins roedd Aberaeron yn ôl ar y blaen 23-20.

Bu yna gyfnod hir arall o amddiffyn cryf gan y ddau dîm cyn i’r capten, Morgan Llewelyn dderbyn y bêl oddi wrth y prop, Alex Danton yng nghanol y cae, tua 20 metr o’r llinell gais. Gwelodd y ffordd yn glir i ddianc trwy’r amddiffyn a sgorio o dan y pyst. Wedi trosiad llwyddiannus arall roedd hi’n edrych yn addawol i’r tîm cartref gyda thua 10 munud o chwarae yn weddill a 10 pwynt ar y blaen.

Eto, taro’n ôl wnaeth yr ymwelwyr gan sgori trosgais a dod o fewn 3 phwynt i Aberaeron. Tro’r Gwylanod i sgorio oedd hi wedyn, ac fe wnaeth y rhif wyth, Gethin Dafis frwydro trwy’r amddiffyn o sgarmes yn agos i’r llinell a chroesi am gais arall gyda phum munud i fynd.

Methu ag ychwanegu at ei sgôr bu hanes yr ymwelwyr am weddill y gêm gyda’r tîm cartref erbyn hyn yn gyfforddus ar y blaen. Cafwyd un trosgais arall gan Aberaeron ar ddiwedd y chwarae. Cais arbennig i Ollie Sawyer a dderbyniodd y bêl ar ongl gyfrwys y tu fewn i’r maswr, Rhodri Jenkins cyn gwthio amddiffynnwr o’r ffordd a sgorio o dan y pyst. Diweddglo arbennig i gêm arbennig!

Llongyfarchiadau i’r ddau dîm am eu parodrwydd i chwarae rygbi agored ag i roddi gwledd i’r dyrfa luosog fu’n gwylio. Rhaid llongyfarch maswr Aberaeron, Rhodri Jenkins am ei chwarae disglair ac am ei gyfanswm o 24 pwynt am y prynhawn – cais, pum trosiad a thair cic gosb.