Aberaeron 60 – 0 Tŷddewi

Yr hyder yn parhau

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
348215931_931747544742113

Y bois wedi’r gêm

Rhys Hafod

Steffan Dale – perfformiad arbennig

Dwy gais i'r blaenasgellwr o SychpantRhys Hafod

Dwy gais i’r blaenasgellwr o Sychpant

Iwan, Jac ag Owen o’r un teulu gyda cais yr un

Bu gêm ola’r tymor nôs Iau yn dipyn o ddathliad i’r Gwylanod, gyda’r hyder yn ei chwarae yn parhau. Roedd hi’n dipyn o daith i’r Seintiau o Dŷddewi ar ganol wythnos i chwarae’r gêm hon. Chwarae teg iddynt am droi lan.

Gyda hwy yn eistedd tua chanol y tabl, mi roedd hon yn gêm y dylai Aberaeron ei hennill. Er hynny, mi gymerodd bron i ugain munud cyn i Sion Evans groesi am sgôr cyntaf Aberaeron. Hynny wedi tipyn o bwyso ar lein ei gwrthwynebwyr gan y tîm cartref.

Y mewnwr, Rhodri Thomas oedd y nesaf i sgorio wedi i Morgan Llewelyn dorri trwy’r amddiffyn a thaflu pas i Rhodri oedd wrth ei gwt yn cynorthwyo. Gwnaeth y blaenasgellwr, Osian (Sychpant) Davies yn dda i ymladd ei ffordd trwy’r amddiffyn o tua 20 metr allan i sgorio cais arbennig, y drydedd i’r tîm cartref.

Chwarae arbennig

Erbyn hyn, roedd y tîm cartref yn chwarae rygbi da ag yn gwneud hi’n anodd i Dŷddewi i amddiffyn. Roedd y blaenwyr a’r olwyr yn cyfuno yn dda gan gadw’r bêl yn fyw a chreu problemau yn amddiffyn y Seintiau.

Sgoriwyd dwy gais arall cyn yr egwyl. Y cyntaf gan yr asgellwr Owen Lloyd wedi rhediad cryf i lawr yr  ystlys a’r ail i’r capten Morgan Llewelyn.

Hanner amser: 29 – 0

Bu hanes yr ail hanner yn debyg i’r cyntaf gydag Aberaeron yn sgorio pum cais arall. Osian (Sychpant) Davies oedd y cyntaf i sgorio ei ail gais wedi gwaith da gan y blaenwyr. Y clo, Steffan Dale oedd yr ail i sgorio. Cafwyd perfformiad arbennig gan Steffan yn y gêm hon, ac mi roedd yn braf ei weld yn croesi am ei gais gyntaf y tymor hwn.

Sgoriodd y maswr, Jac Crompton y cais nesaf cyn i’r hyfforddwr a’r canolwr, Dyfrig Dafis groesi am y nawfed cais yn dilyn bylchiad gan Owen Lloyd. Mae’n bosib taw’r olaf oedd y cais orau, gan i’r bêl fynd trwy nifer o ddwylo cyn cyrraedd yr asgellwr, Iwan Lloyd i groesi am gais.

Bu’r canolwr, Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda phum trosiad. Cafwyd perfformiadau da gan bawb a fu ar y cae ond rhaid canmol y maswr, Jac Crompton am ei gicio allan o’r dwylo, a wnaeth gadw Tŷddewi yn ei hanner ei hunain am gyfnodau hir.

Edrych ymlaen at y tymor nesaf

Ar ddiwedd y tymor rhaid oedd bodloni ar orffen yn drydydd yn y gynghrair. Bu’r gemau a gollwyd yn rhai agos, a chyda tipyn bach o lwc, mi allai’r canlyniadau hyn wedi bod yn wahanol.

Llongyfarchiadau i Glwb Rygbi Llanbed am ennill y gynghrair a cholli ond un gêm yn ystod y tymor, a honno ar Barc Drefach! Bydd Llanbed a Sanclêr yn dringo i’r ail adran y tymor nesaf.

Gyda’r perfformiadau diweddaraf gan y Gwylanod, y gobaith yw y byddant yn eu dilyn ymhen blwyddyn.