gan
Alwen Thomas
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/25/2023/05/20230525_194316-640x396.jpg?0)
Cynhelir Rali CFfI Ceredigion ar gaeau fferm Perthneuadd, Talsarn eleni, ar ddydd Sadwrn y 3ydd o Fehefin. Mae aelodau a ffrindiau CFfI Ceredigion yn brysur yn glanhau, peintio, paratoi llwyfanau…ac mae pawb yn edrych ymlaen at groesawu aelodau a chefnogwyr o bob ran o’r Sir a thu hwnt.
Ar nos Sul y 4ydd o Fehefin, cynhelir Gymanfa’r Rali yn Eglwys Ystrad Aeron am 7.30 y.h. Eto, mae’r aelodau, arweinyddion a ffrindiau’r clwb wrthi’n ddiwyd yn paratoi. Bydd Côr y clwb yn canu dan arweiniad Siw Jones a’r cyfeilydd Ficer Wyn. Beth well na chymanfa i gloi penwythnos y Rali? Croeso cynnes i bawb.