Eisteddfod yr Urdd Ysgol Ciliau Parc

Diwrnod prysur yn yr heulwen yn Llanymddyfri

Ffion Evans
gan Ffion Evans

Roedd hi’n werth codi’n gynnar bore ’ma er mwyn cyrraedd y Pafiliwn Coch erbyn 8 o’r gloch i glywed Lucy Dahill yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri. Chwarae’r Clarinét oedd Lucy yn yr Unawd Chwythbrennau o dan 12 oed.  Er y nerfau, chwaraeodd Lucy yn hyfryd. Llongyfarchiadau mawr iddi.

Roedd llwyddiant hefyd i’r ysgol yn y babell Celf, Dylunio a Thechnoleg. Cyntaf i Evelyn, Gwenllïan, Lucy, Milly, Thea am greu nyth cacwn yng nghystadleuaeth Gwaith Grŵp 3D Bl.6 ac iau. Yn anffodus, roedd y nyth cacwn wedi torri erbyn heddiw ond roedd dal yn edrych yn drawiadol.

Ail oedd Meian am ddylunio CrysT i blant blwyddyn 3 a 4. Roedd y dyluniad yn edrych yn arbennig wedi ei arddangos yn y babell hefyd.

Os byddwch yn ymweld â’r Eisteddfod yn ystod yr wythnos, cofiwch alw draw i weld y babell Celf, Dylunio a Thechnoleg.

Roedd y maes yn brysur, yn llawn bwrlwm heddiw ac yn edrych yn wych yn yr heulwen. Digon o bethau i ddiddanu’r holl deulu.