gan
Rachel Wright
Ar nos Wener y 9fed o Fehefin, cynhaliwyd noson gwis gan Ysgol Gynradd Dihewyd yn Nhafarn y Vale.
Roedd yn noson llwyddiannus iawn efo pawb yn mwynhau mas draw.
Diolch yn fawr iawn i Emyr a Carwen Lloyd am wneud y bingo. Nid oes dim byd yn ddiflas pan yng ngofal Emyr.
Diolch i Tafarn y Vale am adael i’r ysgol gynnal y cwis yno – roedd y lle dan ei sang.
Diolch i bawb am gefnogi ac am y rhoddion tuag at y raffl.
Roedd yna 12 o dimoedd, ond fel pob dim, dim ond un sydd yn fuddugol. Llongyfarchiadau i dîm 4 Farmers am ennill (teulu Cil-Llwch).
Codwyd cyfanswm o £260 a fydd yn mynd tuag at fws Trip Ysgol y plant i Heatherton ym mis Gorffennaf.
Diolch yn fawr iawn i bawb.