Y cwpan yn dychwelyd

Aberaeron yn ennill cwpan Machynlleth am yr ail dro

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
IMG-20230806-WA0008

Y tîm buddugol

Screenshot_2023

Capten Aberaeron, Morgan Llewelyn yn derbyn y cwpan gan aelod o deulu y diweddar Siôn Wyn

IMG-20230806-WA0005-2

Cafwyd perfformiad arbennig gan dîm ifanc Aberaeron yng nghystadleuaeth Saith Bob Ochr Siôn Wyn ym Machynlleth dydd Sadwrn diwethaf.

Aberaeron oedd deiliaid y cwpan wedi ei buddugoliaeth y llynedd.

Wedi chwarae saith gêm, sgoriwyd 36 cais gan ildio ond 4; dwy yn erbyn y Drenewydd yn noei gêm gyntaf, un yn erbyn Aberystwyth, a’r pedwerydd, eto yn erbyn y Drenewydd yn eiliadau diwethaf y ffeinal.

I goroni’r dydd mi wnaeth Rhodri Jenkins gael ei enwi’n chwaraewr gorau’r gystadleuaeth.

Gobeithio cawn ni berfformiad tebyg yng Nghystadleuaeth Saith Bob Ochr Aberaeron mewn prin tair wythnos.