Y dechreuad perffaith i dymor Clwb Pêl-droed Felinfach

Gêm ddarbi i’w chofio i Felinfach

gan Ianto Jones
received_798623805383798-1

Rhys Williams yn sgorio Hat-trick

Ennill oedd hanes Felinfach yng ngêm gyntaf y tymor oddi cartref yn erbyn Dewi Stars.

Gyda llawer iawn o wynebau ifanc yn ymuno â’r tîm cyntaf eleni, roedd pethau’n argoeli’n dda ar gyfer y tymor newydd a chafwyd y dechreuad perffaith un wedi i Rhys Williams rwydo ymhen dwy funud yn unig.

Dyblwyd y fantais ganddo yn dilyn croesiad gwych gan Steff Hopkins, yn ei gêm gystadleuol gyntaf i’r tîm, a sicrhaodd Rhys ei hat-trick funudau cyn yr egwyl yn dilyn cic o’r smotyn.

Go dawel fu pethau ar ddechrau’r ail hanner gyda’r ddau dîm yn ei chael hi’n anodd gael eu traed tani. Bu’r tîm cartref bron â tharo’n ôl ond arbedodd Tomos James yn dda. Gydag ond munudau’n weddill, rhwydodd y capten, Owain Evans, y bedwaredd gôl gan sicrhau buddugoliaeth o 4-0 i Felinfach.

Llandudoch fydd gwrthwynebwyr nesaf y Bois yng nghae pêl-droed Felinfach ddydd Sadwrn am 14:30. Os oes rhywfaint o amser sbâr gyda chi, dewch draw i gefnogi, bydd y tîm yn falch iawn o’ch gweld.

Pob hwyl am weddill y tymor.