Aberaeron ddim ar eu gorau

Talacharn 25 – Aberaeron 19

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis

Rhodri Thomas yn clirio

Rhaid oedd bodloni ar bwynt bonws yn unig wedi’r gêm hon i lawr yn Nhalacharn.

Er bod hyder yr ymwelwyr yn uchel wedi’r fuddugoliaeth yn erbyn Aberdaugleddau bythefnos ynghynt, mi wnaeth Talacharn ddechrau yn gryf a mynd ar y blaen o 15 pwynt i 3 wedi pum munud ar hugain. Nid oedd chwarae Aberaeron i fyny i’r safon arferol. Mi wnaed gormod o gamgymeriadau ac mi oedd y safleoedd gosod yn anobeithiol.

Mi wnaeth y chwarae wella rhyw ychydig cyn hanner amser ac wedi dwy gic gosb gan Steffan Rees mi dynnwyd y sgôr yn ôl i 15-9 .

Dechreuwyd yr ail hanner ychydig yn well. Mi giciodd Steffan Rees gic gosb arall a chyda dim ond tri phwynt rhwng y ddau dîm, mi oedd hi’n edrych yn obeithiol.

Camgymeriadau sylfaenol

Eto, yn gyson ac fel dechreuwyd y gêm, mi wnaed gormod o gamgymeriadau sylfaenol trwy fethu a chlirio o’u llinell ac mi sgoriodd Talacharn eu trydydd cais yn syth wedi ail ddechrau chwarae ynghyd â throsiad a chic gosb. Agorwyd mantais o 13 pwynt i’r tîm cartref.

Cais o’r diwedd

Roedd rhaid cwrso’r gêm eto a chyda chwarter awr i fynd, mi gasglodd y cefnwr, Morgan Llewelyn gic yn 22 ei hunan a bylchu trwy’r amddiffyn cyn pasio’r bêl i Dyfrig Dafis i sgorio cais arbennig. Bu Steffan Rees yn llwyddiannus gyda’r trosiad. Dim ond 6 pwynt oedd y gwahaniaeth ac mi roedd Aberaeron yn edrych yn fygythiol, ond wedi cael sawl cyfle da i sgorio, methiant bu eu hymdrech ac yn y diwedd roedd arbed y pwynt bonws yn holl bwysig.

Rhaid gwella

Bydd rhaid codi’r safon chwarae os am dymor llwyddiannus eleni. Nid oedd y perfformiad hwn yn ddigon da!

Gwylanod Aberaeron 3 – Dreigiau Emlyn 25

Chwaraeodd tîm datblygu Aberaeron eu gêm gyntaf o’r tymor gartref yn erbyn Dreigiau Emlyn ar Barc Drefach. Er iddynt golli, mi roedd hi’n bleser gweld bod y clwb yn medru cynnal dau dîm mewn dwy gynghrair wahanol.