Clwb Garddio Aeron

Mis Medi yn Nyffryn Aeron

Barbara Roberts
gan Barbara Roberts
20230906_200853184_MFNR

Cynnyrch Dyffryn Aerom

20230909_115701402_MFNR

Y buddugol yn Sain Ffagan

CLWB GARDDIO AERON

Mae’r Clwb wedi dechrau’r tymor yn hwylus iawn. Cafwyd sioe cynnyrch ein gerddi ar nos Fercher 8fed o Fedi yn Theatr Felinfach. Roedd arddangosfa’r llysiau, y blodau a’r coginio yn lliwgar dros ben ac yn werth ei gweld.

Ond nid dyna ddiwedd ein gweithgareddau. Ar y dydd Sadwrn canlynol aethom ar daith i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan i ymweld â sioe Cymdeithas Lysiau Cenedlaethol Pencampariaeth Cymru. Cawsom gyfle i werthfawrogi llysiau ar eu gorau: y cennin, y blodfresych, y ffa a’r tomatos i gyd wedi cael eu harddangos mor gelfydd. Roedd y cystadleuwyr wedi dod o bob cwr,  o Essex i Fyfe, a LLanfaircaereinion.

Ond roedd mwy o ddifyrrwch eto wrth alw mewn i’r Bridge yn Llangennech am bryd o fwyd blasus. A phwy oedd yno? Trip ysgol Sul Felinfach! Mae’r Cardis ymhobman.

Bydd y Clwb Garddio yn cyfarfod unwaith y mis am 7:30 ar y drydedd nos Fercher yn Theatr Felinfach. Croeso i bawb ymuno â ni. A chroeso arbennig i ddysgwyr Cymraeg