Ail-sefydlu Adran Dyffryn Aeron

Cefnogaeth arbennig ar y noson gyntaf

gan Alwen Thomas

Daeth dros 30 o blant o ddyffryn Aeron i’r noson gyntaf wrth ail-sefydlu Adran yr Urdd yn yr ardal.

Noson o gemau dan arweiniad Gethin Thomas oedd y weithgaredd ar yr 22ain o Fedi yn neuadd Ciliau Aeron.

Mae croeso i unrhyw blentyn o flynyddoedd 2-6 i ymuno. Cynhelir yr Adran am yn ail nos Wener, o 5yh han 6.30yh.

Gellir dilyn hynt a helynt yr Adran ar y dudalen Facebook ‘Adran yr Urdd Dyffryn Aeron.’