Ysgol Newydd i Gribyn

Dwy iaith ond un nod

Euros Lewis
gan Euros Lewis

Symud ymlaen! Dyna benderfyniad unfrydol cyfarfod agored i drafod y posibilrwydd o berchnogi Ysgol Cribyn.

Pan gaewyd yr ysgol yn 2009 ffurfiwyd Cymdeithas Clotas er mwyn gwrthweithio effeithiau’r golled yn addysgol ac yn gymdeithasol. Tra’r oedd y cyngor sir yn dal i ddefnyddio’r adeilad yn ystod y dydd roedd Clotas yn sicrhau bod pethe ar waith yno gyda’r nos ac ar benwythnosau. Mae’r gweithgareddau hynny yn cynnwys ail-sefydlu Ffair Sant Silin, cynnal dathliadau Gŵyl Ddewi, steddfodau dwl, twmpathau dawns, dosbarthiadau barddoni a hyd yn oed lawnsio llyfr neu ddau!

Bellach, nid yw’r awdurdod yn defnyddio’r adeilad o ddydd i ddydd a gan mai dyma’r unig adeilad yng Nghribyn sy’n addas ar gyfer cynnal y Ffair a’r holl weithgareddau eraill mae Clotas yn awyddus na fydd y safle’n cael ei werthu i ddatblygwr preifat a’i golli i’r gymdogaeth.

Yn y cyfarfod agored (nos Iau, 5 Hydref), trafodwyd y posibilrwydd o greu Cwmni Budd Cymdeithasol, sef menter gydweithredol (debyg i Dafarn y Vale). Awgrymwyd mai dyma’r ffordd ore ymlaen gan Cris Tomos, un a fu’n ganolog i’r broses o droi Ysgol Hermon, ger Crymych, yn Ganolfan Gymdeithasol. Trwy gyflwyniad zoom, soniodd fel y mae cynifer o gymunedau wedi dilyn y llwybr hwn er mwyn diogelu ased yn lleol a dod a budd i’r gymdeithas gyfan (e.e. Clwb Pêl-droed Crymych yn prynu’r Crymych Arms a chymdogaeth Trefdraeth yn perchnogi siop enwog Havard’s, yng nghanol y pentre).

Ers ei sefydlu, rhan ganolog o swyddogaeth Clotas yw cyflwyno newydd-ddyfodiaid i’n hiaith a’n diwylliant a’n hanes. Braf o beth, felly, oedd gweld cynifer o fewnfudwyr yn y cyfarfod agored gan gyfoethogi’r drafodaeth a’u cwestiynau a’u sylwadau. Medd Alan Henson, cadeirydd Cymdeithas Clotas ‘Mae cael cefnogaeth pobol o bob cefndir yn galondid wrth i ni gymryd y cam cyntaf pwysig hwn tuag at sicrhau dyfodol ffyniannus i gymdogaeth Cribyn. Nawr fod ’da ni dystiolaeth gref o ran cefnogaeth ein gobaith yw cael sgwrs yn fuan iawn gyda’r Cyngor Sir er mwyn symud y fenter gyffrous hon ymlaen.’