Hwb Ariannol I Bobol Cribyn

Ysgol Cribyn – Y Cam Bach Cyntaf

Euros Lewis
gan Euros Lewis
Noson-Gyhoeddi-2

Alan Henson, Cadeirydd Cymdeithas Clotas, yn croesawu pawb i’r ysgol ar achlysur cyhoeddi ‘Cribyn – Bor fy Mebyd’ gan Wyndham Jones, Mynach Villa.

Wythnos yn unig wedi i gyfarfod cyhoeddus benderfynu symud ymlaen â’r bwriad i brynu Ysgol Cribyn mae Cymdeithas Clotas wedi cael addewid o £12,000 ar gyfer creu cynlluniau bras a chymryd y camau cyntaf.

‘Mae hyn yn newyddion calonogol iawn’ medd Alan Henson, cadeirydd Clotas. ‘Gallwn ni nawr gael mwy o afael ar hyd a lled y fenter wrth i ni baratoi i drafod gyda Cheredigion, sef perchnogion yr adeilad.’

Dyfarnwyd yr arian gan Lywodraeth Cymru trwy gynllun Perthyn, rhan o weithgaredd hybu mentrau cydweithredol Cwmpas. Peidiodd Ysgol Cribyn fod yn ysgol gymunedol yn 2009. Sefydlwyd Cymdeithas Clotas er mwyn gwrthweithio’r golled i’r ardal o ran addysg a diwylliant. Mewn cytundeb â’r cyngor sir, tra’r oedd yr awdurdod yn dal i ddefnyddio’r adeilad yn y dydd, bu Clotas yn cynnal llu o weithgareddau yno gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Nawr fod Ceredigion wedi datgan nad oes ganddynt, bellach, ddefnydd dyddiol i’r ysgol mae Cymdeithas Clotas wedi dechrau sgwrs â swyddogion y sir o ran sicrhau y bydd perchnogaeth arni yn dod i ddwylo’r gymdogaeth leol.

‘Gwneud yn siŵr bo ni’n dal ein gafael ar yr ased arbennig hwn yw’n blaenoriaeth’ medd Alan. ‘Mae iddi gymaint o botensial.’

1 sylw

Dinah Jones
Dinah Jones

newyddion da.

Mae’r sylwadau wedi cau.