CFfI Felinfach yn gwneud y ‘Trebble’!

Dathliadau mawr wrth i aelodau’r clwb gipio’r prif wobrau yn Eisteddfod CFfI Ceredigion

gan Janice Thomas
Alaw a Ianto / Y Gadair a'r Goron@CFfICeredigion

Alaw a Ianto / Y Gadair a’r Goron

Ensemble1@CFfI Ceredigion

Merched yr Ensemble

Cor@CFfICeredigion

Cor Felinfach dan arweiniad Siw Jones

Gwern-ar-Trophy@CFfICeredigion

Cadeirydd Balch!

Roedd hi’n ddiwrnod hanesyddol i CFfI Felinfach nos Sadwrn wrth i ddau aelod o’r Clwb gael ei coroni a’i cadeirio fel prif lenorion Eisteddfod CFfi Ceredigion.

Alaw Fflur Jones o bentre Felinfach ddeath i’r brig yn yng Nghystadleuaeth y Goron gyda chanmoliaeth uchel am ddarn o ryddiaeth ar y thema ‘Adenydd.

Canmoliaeth uchel ddaeth i ennillydd y Gadair hefyd, sef Ianto Jones o Gribyn. Dyma’r ail waith i Ianto gipio’r gadair yng Ngheredigion, ac eleni, Milltir Sgwar oedd testun ei gerdd.

Roedd gweddill aelodau’r clwb wedi cael diwrnod penigamp ac i goroni’r cyfan, llwyddodd CFfI Felinfach i gipio’r darian am y marciau mwyaf ar y llwyfan yn ogystal ag ennill yr Eisteddfod gyda 101 o farciau.

Bydd y clwb yn cynnal noson pigion yn Neuadd Felinfach nos Wener yma am 7:30pm. Mae croeso cynnes i bawb ddod i fwynhau’r arlwy bendigedig a gyfrannodd at lwyddiant yr aelodau ddydd Sadwrn diwethaf.

Y Canlyniadau: 

Llwyfan

Dawnsio Disgo – 🥇

Meimio i Gerddoriaeth – 🥈

Unawd dan 28 oed – 🥉 Ianto Jones

Llefaru o dan 28 oed – 🥇 Alaw Fflur ac yn cipio llefarydd yr Eisteddfod

Canu Emyn nofis – 🥇 Mali Lewis

Unawd offerynnol – cydradd 🥈 Mali Lewis

Monolog – 🥇 Alaw Mair a cydradd 🥈 Ella Evans

Canu Emyn – cydradd 🥈 Ianto Jones a chydradd 🥉 i Ella Evans

Ensemble Lleisiol – 🥇

Deuawd – 🥈 Ianto ac Ella

Deuawd/Triawd doniol – Cai ac Ioan 🥇

Côr Cymysg – 🥇

Canlyniadau Gwaith Cartref

Rhyddiaith – 🥇 Alaw Fflur ac yn ennill coron yr Eisteddfod

Barddoniaeth – 🥇 Ianto Jones ac yn ennill cadair yr Eisteddfod

Cystadleuaeth dan 16 oed – 🥇 Cai, Tomos, Ioan P ac Ioan D.

Llyfr Cofnodion – 🥇 Alaw Mair

Rhaglen Clwb – 🥈 Mared ac Erin

Parodi – 🥇 Ianto Jones

Bydd y canlynol yn mynd ymlaen i Eisteddfod Cymru:

– Llefaru dan 28

– Monolog

– Deuawd/Triawd Doniol

– Côr Cymysg

– Rhyddiaith

– Barddoniaeth

– Celf Mosaic

– Parodi

Pob lwc i bawb o Geredigion fydd yn cynrychioli’r Sir yn Eisteddfod Cymru yn Ynys Môn ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd.