Buddugoliaeth gyfforddus ar Barc Drefach

Aberaeron 57 – 0 Penfro

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Gethin-DafisRhys Hafod

Gethin Dafis yn dathlu cais boblogaidd

DyfrigRhys Hafod

Y gais gyntaf o’r prynhawn i Dyfrig Dafis

BruceRhys Hafod

Bruce Gaskell yn paratoi i daflu i’r llinell

IfanRhys Hafod

Y gais olaf i Ifan Davies

Roedd hi’n anodd proffwydo canlyniad y gêm yma o flaen llaw gan fod Penfro wedi bod yn chwarae yn adran uchaf cyngrheiriau Undeb Rygbi Cymru yn y gorllewin am rhai tymhorau ac wedi dod yn ôl i lawr i’r drydydd gynghrair ar eu cais eu hunain.

Felly roedd hi’n dipyn o syndod i weld Dyfrig Dafis ar yr asgell dde yn croesi am gais ym munudau cyntaf y gêm wedi gwaith da gan y blaenwyr cyn i’r bêl gael ei lledu drwy’r dwylo at yr asgellwr.

Daeth yr ail gais o fewn deng munud arall wedi pwysau cyson gan y blaenwyr oedd yn gryfach nag eu gwrthwynebwyr ag yn cael eu harwain gan y ddau brop profiadol  – Owen Wozencraft ag Alex Danton gyda Rhys “Bwtch” Jones rhyngddynt. Wedi sawl cymal mi ddaeth y bêl allan at yr olwyr ag i ddwylo Gethin Jenkins i groesi am ei gais cyntaf am y dydd.

Roedd y chwarae hyd yn hyn wedi bod yn hanner Penfro o’r cae yn unig. Roedd amddiffyn y tîm cartref yn eu gwthio yn ôl bob tro byddant yn ceisio ymosod ag os oedd yna gic i lawr y cae, byddai’r maswr, Steffan Rees yn cicio’n ôl a rhoi’r bel allan ag ennill tir yn gyson.

Daeth trydydd cais Aberaeron wedi iddynt ennill un o’r llinellau hyn. Wedi cario trwy’r blaenwyr am rai cymalau, mi wnaeth Steffan Rees weld bod yna wagle ar yr asgell chwith. Ciciodd yn ddestlus tuag at y llinell gais ac mi redodd y cefnwr, Morgan Llewelyn i lawr yr asgell i sgorio yn y cornel.

Rhodri ar Ei Orau

Er nad oedd y ciciau’n hawdd, mi wnaeth y canolwr, Rhodri Jenkins lwyddo gyda thair trosiad a chic gosb i roi’r sgôr yn  24 – 0 ar hanner amser.

Dechreuodd Penfro’r ail hanner gyda thipyn mwy o dân yn eu chwarae, ond eto mi roedd amddiffyn Aberaeron yn eu cadw o fewn eu hanner eu hunain o’r cae. Mi gawson gyfle gyda’i hunig ymweliad a thu fewn i 22 Aberaeron yn ystod yr holl gêm ond mi wnaeth ymdrech yr amddiffyn eu cadw rhag sgorio trwy ddal y bel i fyny.

Mi roedd pac Aberaeron yn drech na’i gwrthwynebwyr ymhob agwedd o’r chwarae gan osod digon o feddiant i’r olwyr ddangos eu doniau. Roedd y llinellau’n gweithio’n dda gyda Richard Francis a Llŷr Davies yn ennill y bêl ac Aberaeron oedd gryfaf yn y sgrymiau.

Cais i’r Tîm Cyfan

Daeth y cais nesaf wedi chwarae arbennig gan bob chwaraewr. Enillwyd llinell ychydig y tu allan i 22 Penfro gan Llŷr Davies wedi tafliad perffaith gan Rhys “Bwtch” Jones. Chwaraewyd naw cymal gan fynd o un asgell i’r llall ag yn ôl cyn i Morgan Llewelyn ddod i mewn ar ongl berffaith i sgorio dan y pyst. Dyna’r pwynt bonws wedi ‘i sicrhau!

Cais Boblogaidd

Mi wnaeth y tîm cartref ennill y bêl wedi ail-ddechrau chwarae ag mi giciodd Steffan Rees y bêl yn ddwfn i 22 Penfro. Roedd  y gic yn ôl yn aneffeithiol gan ddisgyn yng ngôl Gethin Dafis yng nghanol y cae. Ond un peth oedd ar feddwl Gethin, sef mynd am y llinell am gais! Bu rhaid iddo guro pedwar amddiffynnwr  cyn sgorio o dan y pyst am gais poblogaidd iawn.

Cais Gyntaf i’r Clwb

Roedd Penfro yn troseddu’n gyson ac wedi derbyn cic gosb ar eu 22, mi benderfynodd Aberaeron rhedeg y bêl. Aeth drwy’r dwylo at Matthew Harries ar yr asgell i sgorio ei gais gyntaf i’r clwb.

Yn dilyn cic i mewn i hanner Aberaeon aeth y bêl i ddwylo’r canolwr Gethin Jenkins. Gwelodd ei ffordd yn glir i wau drwy’r amddiffyn yn gelfydd a chyda chyflymder i sgorio cais arbennig o dan y pyst a’i ail am y dydd.

Nid dyna’r cais diwethaf – mi sgoriodd yr asgellwr ifanc, Ifan Davies gais arbennig arall wedi ‘r bêl fynd drwy’r dwylo eto, o un ochr y cael i’r llall, iddo redeg o amgylch yr amddiffyn i sgorio dan y pyst.

Prynhawn arbennig felly i’r tîm cartref. Dyma eu perfformiad gorau o’r tymor, gyda chymysgedd o chwaraewyr profiadol ag ifanc ar y cae. Diwrnod i’w gofio hefyd i Rhodri Jenkins gyda’i gicio a’i amddiffyn cadarn. – saith trosiad ag un gic gosb am y prynhawn.

Ebychwn ymlaen at y gêm nesaf ar Barc OJ yn Llanybydder dydd Sadwrn.