gan
Gwenan Davies
Hoffai Jean Davies a’r teulu diolch i bawb am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Meurig Davies.
Casglwyd cyfanswm o £1600 tuag at Orsaf Ambiwlans Aberaeron er mwyn diolch am eu gofal arbennig.
Penderfynwyd prynu mainc arbennig i’w osod tu allan yr orsaf, yn ogstal â nwyddau amrywiol i’r Orsaf gan gynnwys gwaith celf hyfryd o Aberaeron a nwyddau angenrheidiol oedd ei angen ar y staff.
Yn y llun: Mervyn a Ian Davies, meibion Meurig, Chris Doughty, y parafeddyg fu’n gofalu am Meurig, Jean Davies, gwraig Meurig a Neris Davies, merch Meurig.