Aberaeron yn ennill ar Barc OJ

Llanybydder 0 – 68 Aberaeron

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Rhys-Jones-a-Bruce-Gaskell-1Rhys Hafod

Rhys Jones a Bruce Gaskell – y ddau flaenwr ifanc sy’n creu argraff

Er mwyn cadw’r pwysau ar eu gwrthwynebwyr yn y gynghrair, aed a thîm cryf i chwarae  yn Llanybydder dydd Sadwrn diwethaf. Roedd yr ymwelwyr felly yn dipyn cryfach tîm na’r tîm cartref sy’n eistedd ar waelodion y tabl.

Dechreuodd Aberaeron yn gryf gan osod pwysau ar y tîm cartref gan sgorio cais wedi tua phum munud o chwarae. Mi wnaeth Llanybydder eu gorau i atal y peryg oedd Aberaeron yn ei osod trwy’r chwarae da rhwng eu blaenwyr a’r olwyr ond methiant fu’r ymdrech yn y diwedd pan dorrodd Rhodri Jenkins yn rhydd cyn pasio’r bȇl at Gethin Jenkins i groesi’r llinell am gais.

Ail Gais Gethin

Bu rhaid aros am ddeng munud arall cyn ychwanegu at y sgôr. Roedd Llanybydder yn chwarae gyda digon o ysbryd ond yn methu torri trwy amddiffyn Aberaeron. Wedi troi’r bêl drosodd ar y llinell hanner mi aed trwy sawl cymal cyn i Gethin Jenkins sylweddoli bod neb yn gwarchod y ryc. Mi gaeth afael yn y bêl a thorri trwy’r amddiffyn i sgorio dan y pyst.

Roedd pethau’n edrych yn o dywyll ar Lanybydder os fyddai’r pwysau cynyddol hyn yn parhau. Er iddynt ymdrechu’n galed, anodd oedd hi iddynt gadw Aberaeron rhag sgori. Roedd blaenwyr yr ymwelwyr yn lawer cryfach er eu bod yn cynnwys dau ifanc oedd yn dechrau am y tro cyntaf i Aberaeron. Mi wnaeth Rhys Jones yn y rheng ôl a Bruce Gaskell yn y rheng flaen argraff arbennig ar y dorf luosog oedd wedi teithio i lan y Teifi ar brynhawn braf.

Pedair cais arall cyn hanner amser

Sgoriwyd pedair cais arall cyn hanner amser; un yr un i Wil James, Dyfrig Dafis, Steffan Rees a Morgan Llewelyn. Gyda Rhodri Jenkins yn trosi pob cais, roedd y sgôr ar hanner amser yn 0 – 42.

Llanybydder Yn Dal i Frwydro

Dechreuodd y tîm cartref yr ail hanner yn gryf gan ddodi pwysau ar amddiffyn Aberaeron. Yn anffodus, mi fu sawl camgymeriad ganddynt wrth bwyso ar linell gais Aberaeron. Yn y diwedd gwnaeth Steffan Rees glirio gyda chic tuag at y llinell hanner. Wedi un sgarmes fe giciodd Rhodri Thomas ymhellach a dilynwyd y gic gan Morgan Llewelyn a roddodd gic arall a chwrs tuag at linell gais Llanybydder. Yn ffodus iddo, mi drawodd y bêl y postyn a thasgu yn ôl ato iddo ei chodi a sgorio yn agos at y postyn.

Wil James oedd y nesaf i sgorio ei ail gais wedi gwaith da gan y pac. Mi gariodd y bêl yn gryf trwy’r amddiffyn i sgorio.

Yr Hen Ben Yn Croesi

Er i Lanybydder ymweld â 22 Aberaeron sawl gwaith, methiant bu eu hymgais i groesi’r gwyngalch. Wedi dod oddi yno trwy ennill llinell a symudiadau da gan olwyr Aberaeron, mi basiwyd y bȇl i’r wythwr, Tudur Jenkins oedd yn rhedeg ar garlam wedi gweld gwagle yn yr amddiffyn. Mi wnaeth groesi’r llinell i sgori cais boblogaidd heb i neb osod llaw arno.

Steffan “DJ” Jones oedd yr olaf i groesi am gais wedi gwaith da gan yr olwyr i’w ollwng yn rhydd i lawr yr asgell dde. Ciciodd Rhodri Jenkins pob un trosiad heblaw am yr olaf, fel y gwnaeth dydd Sadwrn diwethaf, gan ychwanegu 18 pwynt at yr hanner can pwynt am y ddeg cais.

Er bod deg cais wedi’i sgori, mi roddodd Llanybydder eitha gȇm i’r ymwelwyr gan beidio rhoi i fyny o gwbl. Rhaid canmol eu hymdrech. Ar y llaw arall, roedd Aberaeron yn chwarae gyda hyder a sglein gyda phob chwaraewr yn amlygu ei hun. Bydd hi dipyn anoddach dydd Sadwrn nesaf pan fydd Hwlffordd, sydd ar frig y tabl yn ymweld a Pharc Drefach.