Diwrnod i’w gofio ar Barc Drefach

Aberaeron 19 – 7 Hwlffordd

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
HwlfforddRhys Hafod

Morgan Llewelyn yn croesi am ei gais

Bu’n ddiwrnod hanesyddol i glwb rygbi Aberaeron y Sadwrn diwethaf, gyda’r ddau dîm yn chwarae adref ag yn ennill y ddwy gêm. Cafwyd hefyd weld y llifoleuadau newydd yn cael eu defnyddio am y tro cyntaf mewn gêm gystadleuol.
Y gêm bwysig yn erbyn Hwlffordd chwaraewyd yn gyntaf. Gyda’r ymwelwyr ar frig y tabl ag heb golli’r un gêm, bu tipyn o edrych ymlaen at yr ornest hon. Wedi perfformiadau disglair Aberaeron yn ystod yr wythnosau diwethaf, mi roedd yr hyder yn uchel, ac mi wnaeth hynny ddod i’r amlwg yn ystod y gêm.

Rhodri yn cadw’r sgorfwrdd i droi

Gweddol gyfartal bu’r chwarae rhwng y ddau dîm yn ystod y deng munud cyntaf. Gyda’r gwynt cryf ar eu cefnau, Aberaeron oedd y cyntaf i ddodi sgôr ar y bwrdd trwy gic gosb gan Rhodri Jenkins. Bu’r gwrthwynebwyr ddim yn hir cyn taro’n ôl gyda chais gan eu blaenasgellwr dawnus, Mattie Phillips wedi gwaith da gan eu pac. Bu Hwlffordd yn llwyddiannus gyda’r trosiad.
Ar ran Aberaeron, ciciodd Rhodri Jenkins ei ail gic gosb cyn i’r capten, Morgan Llewelyn gael y bêl yn ei ddwylo i sgorio dan y pyst. Gyda Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda’r trosiad ag un gic gosb arall roedd y sgôr o 16 – 7 ar hanner amser yn edrych yn ddigon ffafriol.

Amddiffyn cadarn

Yn erbyn y gwynt yn yr ail hanner, bu rhaid i Aberaeron amddiffyn am amser hir wedi ail-ddechrau chwarae. Hwlffordd wnaeth sicrhau’r mwyaf o’r meddiant yn ystod y deng munud cyntaf ond nid oedd ffordd trwy amddiffyn y tîm cartref. Roedd y pwysau yn gorfodi chwaraewyr Hwlffordd i wneud camgymeriadau wrth ymosod. Wedi hir bwyso, methiant fu ymdrech yr ymwelwyr i ychwanegu at eu sgôr.
Gwnaeth Aberaeron eu siâr o ymosod ystod weddill yr hanner, ond bu amddiffyn Hwlffordd yn ddigon cadarn i’w hatal rhag sgorio. Yr unig sgôr yn yr ail hanner oedd cic gosb i Rhodri Jenkins tua diwedd y gêm.

Rhyddhad felly i’r llu o gefnogwyr wnaeth droi lan. Rhaid oedd i Hwlffordd fynd tuag adref heb yr un pwynt. Mae Aberaeron yn awr yn ail yn y tabl ag yn edrych ymlaen at eu gemau nesaf – y cyntaf dydd Sadwrn nesaf, bant yn Noc Penfro.

Gwylanod Aberaeron 19 – 8 Clwb Rygbi Athletig Aberystwyth

Gyda nifer fawr o chwaraewyr Aberaeron ddim ar gael oherwydd gwahanol resymau, mi roedd hi’n syndod bod y tîm cartref yn medru troi carfan gyfan allan ar gyfer y gêm hon. Mae’n glod i’r tîm hyfforddi eu bod yn medru cael cynifer o ieuenctid yr ardal i ddod i chwarae i’r clwb, yn enwedig gan ein bod yn cael ein hamgylchynu gyda’r môr ar un ochr!

Cefnogaeth gref

Daeth tyrfa dda ynghyd i gefnogi bechgyn y Tîm Datblygu o dan y llifoleuadau newydd. Da oedd gweld y tîm cyntaf hefyd yn groch eu lleisiau yn annog eu cyd-chwaraewyr ymlaen at fuddugoliaeth
Ni fu rhaid aros yn hir cyn cael ymateb. Mi gafodd y cefnwr, Iwan Lloyd y bêl yn ei hanner ei hunan a chyda chyflymder a dychymyg, mi giciodd y bêl dros yr amddiffyn a gyda chwrs, mi enillodd y ras i sgorio yn y cornel.

Cyn yr egwyl, mi wnaeth Aberaeron daro eto gyda chais gan Kavi Black a throsiad gan Iwan Lloyd.
Mi ddaeth yr ymwelwyr yn ôl i’r gêm yn yr ail hanner gyda chais a chic gosb, ond methiant bu eu hymdrech i ychwanegu at eu sgôr.

Cais i’r capten

Cafwyd diweddglo da i’r diwrnod pan groesodd y capten, Siôn Evans am gais. Ciciodd Mathew Harries y trosiad.