Pob £1 nawr werth £2 i’r Vale

Menter Tafarn y Vale wedi llwyddo i ddenu buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru

gan Lowri Jones

Mae Menter Tafarn y Vale newydd sicrhau £122,000 o gyllid gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, i wella cyfleusterau’r dafarn.

Bydd y cyllid hwn yn cael ei ychwanegu at y buddsoddiad a gafodd ei gadarnhau fis Medi, sef £300,000 gan Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth San Steffan.

Mae llwyddiant y ddau gais am grant yn hwb sylweddol i’r Fenter.

Ar ddechrau’r ymgyrch gwerthu siârs, ein nod oedd gwneud i bob £1 oedd yn cael ei gyfrannu gan bobol gael ei ddwblu. Diolch i ymdrechion arbennig pobol a busnesau o Ddyffryn Aeron union ddwy flynedd yn ôl, lle codwyd dros £380,000 mewn siârs, rydym wedi llwyddo i’w ddefnyddio fel cyllid cyfatebol (match-funding) a dyblu’r buddsoddiad gydag arian cyhoeddus.

Gyda’r Vale bellach wedi’i brynu, bydd yr arian grant yma’n mynd tuag at:

  • wella ansawdd yr adeilad presennol
  • gwella cyfleusterau’r tai bach a’r gegin
  • gwneud yr adeilad yn fwy hygyrch
  • defnyddio ynni’n fwy effeithlon
  • adnewyddu’r stabal i fod yn ystafell gymunedol aml-bwrpas

Daw mwy o newyddion yn y man wrth i ni baratoi at y gwaith adeiladu.

Cofiwch alw heibio unrhyw bryd – i un o’n digwyddiadau dros gyfnod y Dolig neu am beint a sgwrs gyda’r nos!