Ysgol Cribyn Yn Penodi

Cyd-berchen yr ysgol – cam arall ymlaen

Euros Lewis
gan Euros Lewis
Elliw Dafydd - na, nid Gwarffynnon ond Cefncoch, Llanilar - Swyddog Datblygu newydd prosiect ail-agor Ysgol Cribyn

Mae nod pobol Cribyn o brynu ysgol y pentre wedi cael hwb arall ymlaen. Â chymorth grant ‘Perthyn’ (Cwmpas/Llywodraeth Cymru) ma’ nhw wedi penodi Swyddog Datblygu.

Merch ifanc o ardal Llanilar yw Elliw Dafydd sy’n wyneb cyfarwydd i ymwelwyr â swyddfa’r Ffermwyr Ifainc yn Felin-fach gan ei bod hi’n treulio rhan o’i hwythnos waith yno yn Swyddog Marchnata a Gweinyddu. O fis Ionawr ymlaen mi fydd yn treulio gweddill ei hamser yn arwain y gwaith o sefydlu Cymdeithas Fudd Cymunedol Ysgol Cribyn.

‘Ma’ sicrhau help ac arweiniad person ifanc sydd mor frwdfrydig am ddyfodol ein cymunedau cefn gwlad yn gyffrous iawn,’ medd Alan Henson, Cadeirydd Cymdeithas Clotas. ‘Ers cau’r ysgol yn 2009 ma’ Clotas wedi bod yn aros am y cyfle i ddatblygu’r ased bwysig hon ar ran y gymdeithas gyfan. Ry’ ni gyd yn edrych mla’n at gydweithio â hi yn fawr,’ meddai.

Prif swyddogaeth Elliw fydd sicrhau fod cynifer o bobol â phosib yn cael y cyfle i brynu cyfranddaliadau yn y gymdeithas gydweithredol – y gymdeithas a fydd, yn y pen draw, yn berchen ar yr ysgol ar ran y gymdogaeth.

‘Ma’ cael gymaint fyth o gyn-ddisgyblion yr ysgol a thrigolion hen a newydd yr ardal yn aelodau o’r Gymdeithas yn bwysig iawn,’ medd Elliw. ‘Wrth ddenu cefnogaeth y Loteri Cenedlaethol a chyrff tebyg mi fydd creu cymdeithas gydweithredol gref yn dangos yn glir iddynt gymaint yw’r brwdfrydedd a’r penderfyniad yn lleol,’ ychwanegodd.

Ymgyrch Merched Beca oedd pwnc arbenigol Elliw pan oedd yn fyfyrwraig hanes ym Mhrifysgol Bangor. Gobeithio y bydd egni, cyffro a llwyddiant yr ymgyrch honno yn ysbrydoliaeth iddi hi a phobol Cribyn wrth iddynt fwrw ati i siapo’u dyfodol eu hunain.