Gwobr Y Gymuned 2023

Enillydd Gwobr y Gymuned Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad 2023 – Clwb Ffermwyr Ifainc Felin-fach

Clerc Llanfihangel Ystrad
gan Clerc Llanfihangel Ystrad
LLun-2-CFFI

Mudiad a wreiddiodd yng nghefn gwlad Cymru adeg yr Ail Ryfel Byd yw mudiad y Ffermwyr Ifainc. Ceredigion yw un o’r siroedd cryfaf oll gan fod ynddi 18 o glybiau a dros 700 o aelodau.

Wrth gyflwyno’r plac dywedodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Dan Evans, “Yn eu tro mae pob clwb yn cael eu cyfnodau o lewyrch a llwyddiant ac, heb os, y clwb sy’n mynnu’r penawdau i gyd ar hyn o bryd yw Clwb Felin-fach. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal a llwyfannu un o’r Ralïau sir mwyaf llwyddiannus erioed ar dir Perth Neuadd, Llundain Fach, mae’r clwb hefyd wedi cael llwyddiant mawr ar draws ystod o gystadlaethau a llwyddiant arbennig, wrth gwrs, yn Eisteddfod y Sir ym Mhafiliwn Bont –y clwb â’r cyfanswm marciau llwyfan uchaf – ac yna yn Eisteddfod Genedlaethol y mudiad ym Mhafiliwn Môn.

Ond er mor braf a chalonogol yw’r cyfnod hwn o lewyrch mawr, gwir bwysigrwydd y clwb yw cryfder ei wreiddiau ym mhridd a daear Dyffryn Aeron. Drwy’r cyfnodau llai llewyrchus yn ogystal â dyddiau braf y presennol mae’r clwb yn esiampl wych o siwt mae magu a datblygu galluoedd a diddordebau pobol ifainc a’u hyfforddi yn y doniau holl bwysig hynny o gyd-drafod a chyd-greu a, thrwy’r cyfan oll, gyd-enjoio.

Yn ganolog i’r joio hynny mae’u gwaith arbennig o godi arian at wahanol achosion da – ’nenwedig yr adeg hon o’r flwyddyn pryd ry’ ni oll yn disgwyl mla’n i’w clywed wrth y drws yn canu carolau.

Cofiwn hefyd am y cymorth a’r gefnogaeth a gafwyd gan y bobol ifainc adeg amser gofidus y cyfnodau clo. Mae’r wobr hon eleni yn cofio am y cyfraniad pwysig hwnnw hefyd.

Ar ran y Clwb, cafwyd gair o ddiolch gan yr Is-Gadeirydd, Alaw Mair, a gymerodd y cyfle i ddiolch i’r Cyngor Cymuned am eu cefnogaeth i weithgareddau CFfI Felin-fach.

Ar ran y gymdogaeth, mawr yw diolch Cyngor Llanfihangel Ystrad i’r clwb – y 52 o aelodau ffyddlon a’r 16 o arweinwyr ymroddgar ac ysbrydoledig. Dymunwn iddynt bob llwyddiant i’r dyfodol.

Yn y llun:

Y Cadeirydd Y Cyng. Dan Evans yn cyflwyno Plac Gwobr y Gymuned 2023 i Is-Gadeirydd y Clwb, Alaw Mair, a chynrychiolaeth o blith yr aelodau, sef Ffion, Ella, Elen, Iwan, Llŷr, Cai a Tomos.