Pum pwynt arall i Aberaeron

Llangwm 0 – 45 Aberaeron

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Osian-a-Hefin-1Rhys Hafod

Osian Sychpant a Hefin Williams

Heb chwarae ers tair wythnos, ers curo Doc Penfro i ffwrdd, roedd yna dipyn o edrych ymlaen at fynd yn ôl i Sir Benfro. Llangwm oedd yn eu croesawu y tro ’ma. Bu’n daith lwyddiannus gan iddynt gasglu pum pwynt arall oddi cartref.

Tywydd garw

Nid oedd yr elfennau yn ffafrio rygbi agored ac mi wnaeth Aberaeron chwarae gyda’r gwynt yn yr hanner cyntaf. Sgoriwyd pum cais cyn hanner amser. Sgoriwyd y ceisiau gan Ceri Davies, Gethin Jenkins, Morgan Llewelyn, Rhodri Jenkins a Dyfrig Dafis.

Brwydr anodd yn yr ail hanner

Gorfod amddiffyn bu hanes yr ymwelwyr ar ddechrau’r ail hanner. Mi wnaeth Llangwm newid rhai o’i blaenwyr a’i mewnwr a gyda’r gwynt ar eu cefnau mi roedd gofyn i Aberaeron fod ar eu gorau’n amddiffynnol. Er yr holl ymdrech, methu croesi’r llinell bu hanes y tîm cartref. Roedd amddiffyn Aberaeron yn ddigon cadarn i’w hatal. Cafwyd sawl cyfle i sgorio gan Aberaeron hefyd, ond roedd gormod o gamgymeriadau sylfaenol yn aml yn eu gollwng i lawr.

Dwy gais arall

Gyda thua chwarter awr i fynd, mi ddaeth cais o’r diwedd i Osian Sychpant Davies. Sgoriwyd cais arall cyn y diwedd gan seren y gêm, Hefin Williams. Ciciwyd pum trosiad gan Rhodri Jenkins.

Ni fydd gêm yn y gynghrair tan 6 Ionawr pan fydd rhaid teithio i Dyddewi, ond bydd yna gêm gyfeillgar gan y Gwylanod i lawr yng Nghrymych ar 30 Rhagfyr.