Buddugoliaeth ar ddechrau’r flwyddyn

Tyddewi 10 – 35 Aberaeron

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Rhodri-JenksRhys Hafod

Rhodri Jenkins – pedair trosiad

I Dyddewi y teithiodd tîm cyntaf Aberaeron y Sadwrn diwethaf. Fel arfer byddai disgwyl ennill yn weddol hawdd i lawr yng ngwaelodion Sir Benfro, ond yn ystod y tymor diwethaf mae Tyddewi wedi cryfhau fel tîm. Gorfu i’r ymwelwyr weithio’n galed i gael buddugoliaeth y llynedd. Er i’r sgôr terfynol ddangos buddugoliaeth gyfforddus i Aberaeron, nid felly bu hi ar y cae.

Gweddol gyfartal bu’r chwarae am y chwarter awr gyntaf gydag amddiffyn y ddau dîm yn ennill y dydd. Yr ymwelwyr oedd gyda’r mwyaf o diriogaeth ond methiant bu eu hymdrech i groesi’r llinell gais. Wedi tipyn o bwyso ag ennill cic cosb 5 metr, tynnwyd y sgarmes symudol i lawr am yr ail dro ac fe ddyfarnwyd cais gosb i Aberaeron.

Tyddewi yn taro nôl

Ni chymerodd hi lawer o amser cyn i Dyddewi daro’n ôl. Mi wnaeth eu blaenasgellwr bywiog dorri drwy’r amddiffyn i sgorio cais arbennig. Methwyd gyda’r trosiad.

Gyda dim ond dau bwynt o wahaniaeth, cyfartal eto bu’r chwarae am ran helaeth o’r hanner cyntaf. Dyfarnwyd cic gosb i’r ymwelwyr o flaen y pyst. Yn lle chwarae’n saff a mynd am y gic, fe benderfynwyd rhedeg a chadw’r bêl yn y dwylo ymysg y blaenwyr. Mi wnaethant yn dda i ennill tir cyn i’r blaenasgellwr, Hefin Williams groesi am gais. Troswyd y cais gan Rhodri Jenkins.

Aberaeron yn ymestyn eu sgôr

Cododd ysbryd yr ymwelwyr wedi hyn a chyn hir mi sgoriodd  y capten Morgan Llewelyn gais yn y cornel wedi cic a chwrs i faeddu’r amddiffyn mewn ras i dyrio’r bêl. Eto bu Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda’r trosiad gan osod y sgôr yn 5 – 21 ar hanner amser.

Cais ddadleuol

Mi wnaeth Tyddewi ddechrau’r ail hanner yn gryf gan sgorio cais drwy rym eu blaenwyr. Er iddynt groesi’r llinell gais drwy sgarmes symudol, nid oedd sicrwydd bod y bêl wedi cyffwrdd â’r llawr. Beth bynnag, mi wnaeth y dyfarnwr ganiatáu’r cais. Eto, methiant bu’r ymdrech gyda’r trosiad. Heblaw am y methiannau gyda’r trosi, mi wnaeth cicwyr Tyddewi fethu gyda nifer o giciau cosb yn ystod y gêm. Gall y sgôr terfynol fod tipyn agosach pe bai’r cicio wedi bod yn fwy cywir.

Wedi eilyddio nifer o’i blaenwyr, mi roedd Tyddewi yn gryfach fyth yn y sgrymiau yn ystod yr ail hanner. Mi wnaeth Wil James waith da fel wythwr i arbed pêl Aberaeron ar fwy nag un achlysur pan oedd eu pac yn mynd am yn ôl. Wil hefyd oedd seren y gêm. Gyda’r gwynt cryf yn chwythu’n groes i’r cae, ond yn ffafrio’r ymwelwyr rhyw ychydig, mi wnaeth y maswr, Steffan Rees rheoli’r gêm gyda chicio deallus i gadw’r tîm cartref yn eu hanner eu hunain.

Pwynt bonws

Gan ei bod mor dynn ar dop y tabl, roedd dal angen cais arall ar Aberaeron er mwyn sicrhau’r pwynt bonws. Mi ddaeth cais o’r diwedd. Wedi ennill tir trwy sawl cymal tu fewn i 22 Tyddewi, mi ddaeth y bachwr, Sïon Evans yn gryf ar lwybr tarw i dderbyn y bêl a chroesi am gais arbennig.

Sgoriwyd pumed cais Aberaeron wedi rhediad gan Morgan Llewelyn. Cafodd ei dynnu i lawr yn fyr o’r llinell gais ond roedd y brwdfrydig Bruce Gaskell wrth ei ochr i dderbyn y bêl i groesi yn ddiwrthwynebiad. Ategwyd dau bwynt arall at y sgôr gan Rhodri Jenkins a fu’n llwyddiannus gyda phob trosiad.

Y Gwylanod yn brwydro’n ôl

Bu’r Gwylanod (Tîm Datblygu Aberaeron) yn chwarae bant yn erbyn ail dîm Dinbych y Pysgod ar yr un Sadwrn. Er iddynt golli o 44 – 21 mi wnaethant yn dda i frwydro’n ôl o 44-7 ar ddechrau’r ail hanner i gau’r bwlch.

Sgoriwyd ceisiau gan Bobby Jones, Gethin Hughes a Jac Parry. Bu Steffan “Bwtch” Jones yn llwyddiannus gyda’r tair trosiad. Rhys “Cilerwisg” Jones oedd seren y gêm.

Dydd Sadwrn

Bydd y tîm cyntaf yn chwarae adref yn erbyn Neyland dydd Sadwrn nesaf a bydd y Gwylanod yn teithio i Grymych.