Tîm Talwrn o Dafarn y Vale

Mentro i fyd y talyrna

gan Ianto Jones

Yn ôl ym mis Awst, penderfynodd Iwan Thomas, Dwynwen Llywelyn ac Ianto Jones ffurfio tîm talwrn i gystadlu yn Nhalwrn Eisteddfod Llambed a chafwyd cymaint o flas arni fel i’r tri gofrestru tîm ar gyfer cyfres Talwrn y Beirdd Radio Cymru 2024.

Mae’n hen arfer bellach i’r gyfres ddechrau ym mis Ionawr, ac eleni braf oedd gweld tîm o Ddyffryn Aeron yn cystadlu yn y gyfres sef ‘Tafarn y Vale’.

Glannau Teifi oedd y gwrthwynebwyr a chynhaliwyd yr ornest honno yn Festri Capel Bryngwenith a’i darlledu nos Sul diwethaf.

Er i’r Vale golli o hanner marc, cafwyd hwyl dda arni gyda’r Meuryn, Ceri Wyn Jones yn hael iawn ei sylwadau i’r tri. Mae holl weithiau’r ornest ar gael i’w darllen ar wefan Talwrn y Beirdd Radio Cymru.

Bwriad y tîm ar gyfer gweddill y flwyddyn yw cystadlu yn nhalyrnau lleol i hybu’r traddodiad.

Ydych chi’n awyddus i ddysgu Cynganeddu? Dyma’ch cyfle! Bydd gwersi cynganeddu yn cael eu cynnal yn Nhafarn y Vale am rai wythnosau a bydd gwybodaeth ynglŷn â dyddiad y wers gyntaf yn cael ei rhannu cyn hir.