Ceredigion yn llonni bobol Cribyn

Prynu’r ysgol nawr yn bosibilrwydd go iawn

Euros Lewis
gan Euros Lewis
Cabinet-Ceredigion-23-Ion-2024

Sgrin Facebook wrth i’r cabinet drafod dyfodol Ysgol Cribyn

‘Newyddion arbennig o dda!’ Dyna ymateb Alan Henson, Cadeirydd Cymdeithas Clotas, i’r newyddion fod cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu’n unfrydol i gynnig Ysgol Cribyn i’r gymuned i’w phrynu. ‘Gallwn ni fwrw mla’n o ddifri nawr’ medd Alan wedi gwylio’r drafodaeth yn fyw ar safle Facebook y cyngor. ‘O fewn y mis nesa mi fydd y cyngor wedi clirio’r stwff ma nhw’n stôro o ’na ac mi fydd yn glir i’r pensaeri ddechrau creu cynlluniau go iawn ar gyfer troi rhan helaetha’r adeilad yn ganolfan gymunedol hyblyg a chysurus a’r Tŷ’r Ysgol gynt yn gartre fforddiadwy ar gyfer teulu lleol.’

Ers dechrau’r flwyddyn mae Elliw Dafydd, Swyddog Datblygu’r prosiect, wedi bod yn paratoi ar gyfer y cam mawr nesaf, sef creu Cymdeithas Fudd Cymunedol Ysgol Cribyn. Medd Elliw ‘Nawr fod y cabinet wedi rhoi eu sêl bendith gallwn fwrw ymlaen â’r ymgyrch i werthu cyfranddaliadau fel y bydd cynifer â phosib o bobol yr ardal yn dod yn gyd-berchnogion ar yr ased bwysig hon’. Mi fydd Elliw hefyd yn helpu Cymdeithas Clotas i geisio am arian gan nifer o gyrff cyhoeddus sy’n cefnogi datblygiadau cymunedol. ‘Mae’r cyngor wedi rhoi 6 mis i ni symud mla’n â’r pryniant. Rhaid i ni fwrw ati’n weddol fach o slic felly os y’n ni am weld y cynllun cyffrous hwn yn llwyddo’ meddai.

Bwriad nesa’r grŵp llywio yw cynnal sesiwn o drafod syniadau o ran anghenion a phosibiliadau y ganolfan newydd yn ystod Ffair Sant Silin, bnawn dydd Sadwrn 10 Chwefror. Medd Alan ‘Yn ystod y dathliad hwn o nawddsant y pentre mi fyddwn yn defnyddio syniadau cynta’r pensaer i’n ysgogi i feddwl pa fath o ganolfan y’n ni am i’r ysgol fod. Mi fydd hefyd yn gyfle i longyfarch swyddogion a chynghorwyr y sir ar eu penderfyniad a fydd, gobeithio, yn agor pennod gynhyrchiol newydd yn hanes Cribyn’.