Tyrfa fawr ar Barc Drefach

Aberaeron 41 – 0 Llanybydder

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Cian-3Rhys Hafod

Cian Jones yn croesi am ei drydydd cais

Ryan-a-CeriRhys Hafod

Dau o’r rheng flaen – Ryan Williams a Ceri Davies

KubaRhys Hafod

Un arall o’r drindod – Kuba Poplonksi (Bobby Jones y tu ôl iddo)

LlyrRhys Hafod

LLyr Davies yn ennill lein

BruceRhys Hafod

Bruce Gaskell yn tyrio

MorganRhys Hafod

Y gais olaf i Morgan Llewelyn

Daeth nifer dda o gefnogwyr i Barc Drefach ar gyfer y gêm ddarbi hon ddydd Sadwrn diwethaf. Roedd y tywydd sych yn ffafrio gêm agored o rygbi a dyna gawd.

Dechreuodd y tîm cartref yn gryf wedi’r gic gyntaf gan gadw’r gwrthwynebwyr yn hanner eu hunain tan iddynt groesi am eu cais cyntaf. Y mewnwr a seren y gêm, Cian Jones wnaeth ganfod gwagle wrth ochr sgarmes yn agos at y llinell gais wnaeth groesi am ei gais gyntaf o dair am y prynhawn. Bu Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda’r trosiad.

Er i Lanybydder ddangos digon o frwdfrydedd yn eu hymosod, cael eu gwasgu yn ôl i hanner eu hunain  oeddynt yn gyson gan dîm Aberaeron. Roedd yr ymwelwyr hefyd yn euog o droseddi wrth geisio amddiffyn  chwarae cyflym y tîm cartref oedd yn barod i ledu’r bêl yn gyson. Canlyniad i gic gosb wnaeth roddi llinell i Aberaeron ar 22 Llanybydder. Wedi ennill tir sylweddol drwy’r blaenwyr a chario cryf gan Ryan Williams, daeth y bêl yn ôl at yr olwyr i’w lledu at y cefnwr, Jac Crompton â wnaeth groesi yn y cornel.

Dwy gais arall i Cian cyn hanner amser

Bu’n ddi-sgôr wedyn am tua ugain munud. Cafodd Llanybydder eu cyfle, gan iddynt geisio lledu’r bêl, ag ennill cic gosb. Gwrthod mynd at y pyst a wnaethant a mynd am linell tu fewn i 22 Aberaeron. Ni fu’r ymdrech yn llwyddiant gan i’r bêl ddisgyn yn nwylo un o chwaraewyr y tîm cartref. O sgrym i Aberaeron ar 22 Llanybydder, gwelodd Cian Jones ei ffordd yn glir wedi iddo ffug-basio i groesi am ei ail gais.

Daeth trydydd cais Cian wedi mwy o bwysau gan y blaenwyr a oedd wedi ennill tipyn o dir cyn cyrraedd yn agos at y llinell gais. Roedd y cais yma’n debyg i’r cyntaf gan iddo ffrwydro trwy’r amddiffyn wrth ochr sgarmes. Wedi trosiad Rhodri Jenkins, roedd y sgôr yn 24-0 ar hanner amser.

Dechrau cryf i’r ail hanner

Sgoriwyd cais cyntaf yr ail hanner o symudiad wedi ei pharatoi rhwng y maswr, Steffan Rees a’r canolwr, Morgan Llewelyn. Torrodd Morgan yn rhydd drwy’r canol cyn danfon y bêl at Cian Jones a wnaeth basio’r bêl i Dyfrig Dafis i sgorio wrth ymyl y pyst. Gwnaeth Rhodri Jenkins ychwanegu at y sgôr gyda throsiad.

Llanybydder fu’n pwyso am y chwarter awr nesaf, gan iddynt godi ei gêm a bygwth torri trwyddo, ond methiant bu’r ymdrech. Rodd Aberaeron yn ddigon cyfforddus gyda’i hamddiffyn fel arfer.

Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaeth Llanybydder gawdel o linell ar 22 Aberaeron. Codwyd y bêl rydd o’r llawr gan Gethin Hughes a wnaeth ennill tir. Dyna ddechrau symudiad a wnaeth ddod a chais gorau’r gêm. Aeth y bêl trwy nifer o ddwylo a sawl sgarmes ac o un ochr y cae i’r llall ag yn ôl cyn cyrraedd y bachwr Bruce Gaskell i sgori cais arbennig.

Llanybydder yn brwydro’n galed am gais

Chwarae teg i’r ymwelwyr; er eu bod ymhell ar ei hôl hi, mi wnaethant frwydro tan y diwedd. Heblaw am ambell i gamgymeriad ag amddiffyn cadarn y tîm cartref, mi fyddent wedi gallu sgori gan iddynt roddi digon o bwysau tu fewn i hanner Aberaeron yn ystod yr ail hanner. Roedd ffitrwydd y tîm cartref yn drech na Llanybydder erbyn diwedd y gêm. Mi wnaeth Aberaeron ddechrau rhedeg pob cic gosb ag ennill tir yn hawdd tra bo’r amddiffyn yn “cysgu”. Daeth y cais olaf i Morgan Llewelyn oddi ar gic gosb. Mi fedrodd dorri trwy’r amddiffyn i sgori cyn iddynt fynd yn eu holau’r deng metr angenrheidiol.

Dyna’r deuddegfed fuddugoliaeth y tymor yma i Aberaeron. Gyda dim ond pedair gêm ar ôl mae’n bwysig eu bod yn ennill pob un sy’n weddill er mwyn bod ar ben y tabl ar ddiwedd y tymor. Bydd eu gêm nesaf i ffwrdd yn Hwlffordd ar Chwefror 17.