Dathlu Dydd Miwsig Cymru yn y Vale

gyda Lowri Evans a Robin Rae

Carys Mai
gan Carys Mai

Sdim byd gwell na cherddoriaeth byw mewn tafarn a gethon ni wledd o ganu yn y Vale i ddathlu Dydd Miwsig Cymru ar y 9fed o Chwefror.

Dyma ymddangosiad byw cynta’ Robin Rae, sef enw perfformio newydd Danielle Lewis, sy’n dod o Gilfachreda. Roedd set Robin Rae yn gwbl hudolus gyda’i llais unigryw ac arallfydol a chyfeiliant ei gitâr acwstig. Ochr yn ochr â chaneuon gwreiddiol, clywon ni fersiynau newydd a chyfoes o ganeuon adnabyddus fel Myfanwy, Ar Lan y Môr a Calon Lân.

O Drefdraeth daw Lowri Evans ac mae ei milltir sgwâr wedi dylanwadu’n fawr ar ei cherddoriaeth. Gyda’i phartner Lee Philips ar y gitâr a hithau â’i llais melfedaidd, gwerinol, cafodd y gynulleidfa’u tywys i wlad y wes wes a gwledd o gerddoriaeth cyfareddol.

Diolch i bawb am gefnogi’r noson. Ry’n ni’n edrych ymlaen at fwy o ganu byw yn y Vale yn ystod 2024! Os hoffech chi drefnu gig yn y dafarn, byddai’r criw yn falch iawn o glywed wrtho chi: cysylltu@tafarn.cymru