Felinfach yn cyrraedd y Rownd Genderfynol

Cei Newydd 0 – Felinfach 1

gan Ianto Jones
FB_IMG_1708104502532

Ar olwg gyntaf, roedd Felinfach sy’n ail yn y gynghrair yn erbyn Cei Newydd sydd ar waelod y tabl, yn edrych fel gêm unochrog ond nid fel yna fuodd hi. Roedd nifer o dîm cyntaf Felinfach ar goll ac roeddent yn dibynnu ar saith chwaraewr o’r garfan sy’n eu harddegau. Roedd gan Gei Newydd hefyd chwaraewyr fyddai fel arfer yn chwarae rygbi ar gael ac felly roedd natur y gêm yn fwy cystadleuol.

Er bod y tywydd yn braf, roedd glaw’r noson gynt wedi gadael mannau gwlyb iawn ar y cae ac fe waethygodd y cae fel i’r chwarae fynd ymlaen. Doedd dim llawer o gyfleoedd i’r naill dim yn yr hanner cyntaf, cafwyd dau gerdyn melyn i Gei Newydd ac roeddent yn llwyddo i atal Felinfach rhag cael unrhyw batrwm a gafael ar y gêm.

Daeth Rhydian Davies ymlaen yn yr ail-hanner i ychwanegu profiad yng nghanol cae, ac fe wellodd pethau i Felinfach gyda mwy o fylchau yn ymddangos. Cafodd Rhys Jon ergyd yn y bocs, ond arbedodd y gôl-geidwad yn dda. Cafodd Cei Newydd eu cyfleoedd hefyd, gydag Oliver Edwards yn rhoi cynnig o bell ar hanner-foli dros ben y bar. Yn ddwfn mewn i’r hanner aeth Cei Newydd lawr i ddeg dyn ar ôl i George Tilstone gael ail gerdyn melyn. Roedd mantais o gael dyn ychwanegol yn annog Felinfach i wthio’n ymlaen ond roedd y chwaraewyr a’r dorf hefyd yn mynd yn rhwystredig gyda chyfleoedd i sgorio yn cael eu gwastraffu.

Yn y munudau olaf fe fownsiodd y bel tri deg llath o’r gôl a fe darodd Cameron Miles y bêl ar hanner-foli dros ben y gôl geidwad ac i gornel y rhwyd. Roedd dathlu mawr a’r rhyddhad yn amlwg. Canlyniad pwysig arall i Felinfach a phrofiad pwysig i’r bois ifanc o ddatrys ffordd o ennill gêm. Mae Felinfach yn ymestyn ei rediad i un ar ddeg gêm heb golli.

Adroddiad gan Owain Dafydd