Prif Weithredwr newydd i Barcud

Cwmni Tai Barcud yn apwyntio brodor o Ddyffryn Aeron i arwain gwaith Gymdeithas

gan Janice Thomas

Mae Cymdeithas Tai Barcud, sefydliad blaenllaw â’r pwrpas o fynd i’r afael â heriadau tai yn ardal wledig canolbarth a gorllewin Cymru, yn falch iawn o gyhoeddi bod dyn lleol o Geredigion, Jason Jones, wedi’i benodi fel Prif Swyddog Gweithredol newydd.   

Mae Jason yn arbenigwr hen gyfarwydd â’r maes eiddo ac adfywio gyda mwy na 25 mlynedd o brofiad yn y sector breifat a’r sector gyhoeddus. Y mae wedi’i gymhwyso fel Syrfëwr Siartredig ac fe ddechreuodd ei yrfa mewn rheoli ystadau ac ymgynghoriaeth eiddo yn y sector breifat cyn symud i lywodraeth leol yn 2003.

Yn ei swyddi blaenorol yng Nghyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Caerfyrddin, enillodd Jason brofiad helaeth tu hwnt mewn rheoli ystadau, rheoli prosiectau eiddo, adfywio, digidol, a pholisi. Mae ganddo hanes o arweinyddiaeth strategol lwyddiannus yn cynnwys timau mawr ac amrywiol a rheoli cyllidebau ariannol sylweddol. Mae profiad Jason o adfywio’n cynnwys cefnogi twf economaidd mewn cymunedau gwledig a hybu’r Gymraeg. Mae’r profiad hwn yn gweddu’n dda i amcan cymdeithasol Barcud sydd â’i ffocws ar denantiaid.

Wrth dderbyn y swydd, dywedodd Jason, “Rwyf yn ei gweld yn anrhydedd ac yn beth cyffrous ymuno â Chymdeithas Tai Barcud fel ei Phrif Swyddog Gweithredol newydd. Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm i adeiladu ar lwyddiannau’r sefydliad a pharhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n blaenoriaethu anghenion defnyddwyr ein gwasanaethau. Rwyf yn rhannu gwerthoedd a gweledigaethau Barcud ac rwyf wedi ymrwymo i weithio mewn cyfeiriad moesol sy’n cyd-fynd â gwerthoedd ein sefydliad ac ymagweddiad sy’n rhoi tenantiaid yn gyntaf. Gyda’n gilydd, rwyf yn hyderus y gallwn gael effaith fuddiol ar y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu a chreu dyfodol disgleiriach i bawb.”

Mae Cymdeithas Tai Barcud yn hyderus y bydd gwybodaeth broffesiynol helaeth Jason a’i brofiadau o weithio ar lefel uchel yn darparu cyngor strategol a fydd yn dylanwadu ar benderfyniadau mawr ac yn ei gwneud yn ychwanegiad ardderchog at ein tîm arweinyddol.

Meddai Alison Thorne, Cadeirydd Bwrdd Barcud, “Mae tai yn ardaloedd gwledig Cymru yn bwnc heriol a chynhyrfiol, ac mae’r Bwrdd wedi ymgymryd â phroses recriwtio a dethol drylwyr i ddod o hyd i’r unigolyn iawn i arwain Grŵp Barcud ymlaen. Ar ôl ystyried nifer helaeth o ymgeiswyr uchel eu cymwysterau, gwelwyd mai Jason Jones oedd y dewis amlycaf oherwydd ei sgiliau arweinyddol eithriadol, ei weledigaeth strategol, a’i ddealltwriaeth ddofn o’r heriadau unigryw o ran tai sy’n wynebu cymunedau yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.”

Mae’r Bwrdd a’r tîm Arweinyddol i gyd yn estyn croeso cynnes iawn i Jason, ac fe edrychwn ymlaen at gydweithio’n agos ag ef i wneud ein ffordd drwy dirwedd gymhleth Tai gwledig. Mae Cymdeithas Tai Barcud yn parhau’n ddiysgog yn ei hymroddiad i ddarparu datrysiadau tai fforddiadwy a chynaliadwy. Â Jason wrth y llyw, rydym yn hyderus o’n gallu i gyflawni llwyddiant mwy byth yn y blynyddoedd i ddod.

Bydd Jason Jones yn decharu yn y swydd newydd ddiwedd gwanwyn 2024.